Canllaw i’r wybodaeth mae’r Brifysgol yn ei chyhoeddi fel mater o drefn yw Cynllun Cyhoeddi’r Brifysgol. Mae’r cynllun cyhoeddi hwn, sy’n seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), yn amlinellu pa wybodaeth y mae’r Brifysgol yn ei chyhoeddi neu’n bwriadu ei chyhoeddi, sut mae modd cael gafael ar y wybodaeth ac a fydd tâl yn cael ei godi amdani.

Mae’r Brifysgol yn dilyn y cynllun cyhoeddi enghreifftiol a gymeradwywyd gan Gomisiynydd Gwybodaeth Prydain at ddibenion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Cyflwynwyd y fersiwn presennol o’r cynllun hwnnw o 1 Ionawr 2009 ymlaen, fel a ganlyn:

Mae’r cynllun cyhoeddi yn ymrwymo’r Brifysgol i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd fel rhan o’i gweithgareddau busnes arferol.

Mae’r cynllun yn ymrwymo’r Brifysgol i wneud y canlynol:

  • Mynd ati’n rhagweithiol i gyhoeddi neu i sicrhau mewn ffordd arall bod gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth amgylcheddol, sy’n cael ei dal gan yr awdurdod ac yn dod o dan y dosbarthiadau isod, ar gael fel mater o drefn.
  • Pennu pa wybodaeth sy’n cael ei dal gan yr awdurdod ac yn dod o dan y dosbarthiadau isod.
  • Mynd ati’n rhagweithiol i gyhoeddi neu i sicrhau bod gwybodaeth ar gael fel mater o drefn yn unol â’r datganiadau yn y cynllun hwn.
  • Cynhyrchu a chyhoeddi’r dulliau o sicrhau bod y wybodaeth ar gael fel mater o drefn fel bod modd i aelodau’r cyhoedd ei hadnabod a chael mynediad ati.
  • Adolygu a diweddaru’n rheolaidd pa wybodaeth y mae’r awdurdod yn sicrhau ei bod ar gael o dan y cynllun hwn.
  • Cynhyrchu amserlen o unrhyw ffioedd sy’n cael eu codi am fynediad at wybodaeth y byddwn yn mynd ati’n rhagweithiol i sicrhau ei bod ar gael.
  • Sicrhau bod y cynllun cyhoeddi hwn ar gael i’r cyhoedd.
  • Cyhoeddi unrhyw set ddata sy’n cael ei dal gan yr awdurdod y mae rhywun wedi gwneud cais amdani, ac unrhyw fersiynau wedi’u diweddaru y mae’n eu dal, oni bai bod yr awdurdod yn fodlon nad yw’n briodol gwneud hynny; cyhoeddi’r set ddata, lle bo’n rhesymol ymarferol, mewn ffurf electronig y mae modd ei hailddefnyddio; ac, os oes unrhyw wybodaeth yn y set ddata yn waith dan hawlfraint berthnasol ac mai’r awdurdod cyhoeddus yw’r unig berchennog, sicrhau bod y wybodaeth ar gael i’w hailddefnyddio o dan drwydded benodedig. Caiff y term ‘set ddata’ (‘dataset’) ei diffinio yn adran 11(5) y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Mae’r termau ‘gwaith dan hawlfraint berthnasol’ (‘relevant copyright work’) a ‘trwydded benodedig’ (‘specified licence’) wedi eu diffinio yn adran 19(8) y Ddeddf honno.

Mae’r wybodaeth a gyhoeddir wedi ei chynnwys yn y dosbarthiadau o wybodaeth a nodir isod:-

  • Pwy ydyn ni a beth rydym yn ei wneud
  • Beth rydym yn ei wario a sut rydym yn ei wario
  • Beth yw’n blaenoriaethau a sut mae pethau’n mynd
  • Sut rydym yn dod i benderfyniadau
  • Ein polisïau a’n gweithdrefnau
  • Gwybodaeth sy’n cael ei dal mewn cofrestri sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith a rhestri a chofrestri eraill sy’n berthnasol i swyddogaethau’r awdurdod.
  • Y gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig

Yn gyffredinol, ni fydd y dosbarthiadau o wybodaeth yn cynnwys:

  • Gwybodaeth y mae’r gyfraith yn atal ei datgelu, neu sydd wedi’i heithrio o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, neu y bernir yn briodol am reswm arall nad oes angen ei datgelu.
  • Gwybodaeth ar ffurf ddrafft.
  • Gwybodaeth nad yw ar gael yn hawdd bellach, gan ei bod mewn ffeiliau sydd wedi eu gosod mewn storfeydd archif, neu sy’n anodd cael mynediad ati am resymau tebyg.