Os nad ydych yn fodlon ar ôl cael ymateb i gais am wybodaeth, mae gennych hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Rhaid gwneud pob apêl yn ysgrifenedig at:
Rheolwr Cydymffurfio Gwybodaeth
Swyddfa’r Is-Ganghellor
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
neu drwy e-bost
Er mwyn bwrw ymlaen gyda’ch apêl cyn gynted â phosibl, cofiwch ddyfynnu cyfeirnod eich cais a dyddiad eich cais gwreiddiol, yn ogystal ag esbonio pam rydych chi’n gwneud yr apêl. Dylech hefyd anfon eich manylion cysylltu llawn gan gynnwys rhif ffôn os oes modd, rhag ofn bod angen i ni gysylltu â chi yn ystod y broses apelio. Byddwch yn cael cydnabyddiaeth ysgrifenedig bod eich apêl wedi cyrraedd. Yn dilyn yr adolygiad, byddwch yn cael adroddiad yn cynnwys y canlyniad a’r camau y bydd Prifysgol Abertawe yn eu cymryd wedyn.
Os nad ydych yn fodlon â chanlyniad yr apêl, mae gennych hawl i wneud cais yn uniongyrchol i’r Comisiynydd Gwybodaeth i gael penderfyniad. Mae modd cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy’r manylion isod: -
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth,
Information Commissioner’s Office,
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Cheshire,
SK9 5AF