Croeso i Gyfrifeg Ariannol

 Mae'r Tîm Cyfrifeg Ariannol yn anelu at ddarparu gwasanaeth ariannol effeithlon, effeithiol a phroffesiynol sy'n cynnwys rhoi cyngor, cyfarwyddyd, arweiniad a chymorth i bob rhan o'r Brifysgol a'i his-gwmnïau.

Rydym yn gyfrifol am ddarparu datganiadau ariannol blynyddol ar gyfer y Brifysgol a'i his-gwmnïau, gan gydymffurfio'n llawn â pholisïau a gweithdrefnau ariannol cyfredol ac unrhyw ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu'r ffordd rydym yn cynnal ein gwaith.

Mae gan y tîm gyfrifoldebau hefyd am feysydd megis adrodd am TAW a rheoli arian.

Gwybodaeth gyswllt:

E-bost: FinancialAccounting@abertawe.ac.uk