Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymrwymedig i ddarparu'r bwydydd gorau i sbarduno meddyliau a chyrff ein staff a'n myfyrwyr.

Rydym yn croesawu staff a myfyrwyr o bedwar ban byd ac yn cynnig amrywiaeth o fwydydd at ddant pawb. O’r prydau clasurol o'r dwyrain canol a gynigir gan Beseha yn yr Harbwr a'r Guddfan, ac ystod o brydau halal, i gynhyrchion rhyngwladol amrywiol Tesco Express ar Gampws y Bae.

Mae'r argyfwng costau byw'n flaenllaw ym meddyliau pawb ar hyn o bryd, a dyna pam rydym yn gweithio'n galed i gadw costau bwyd ar y campysau mor rhad â phosib. Mae amrywiaeth o fargeinion bwyd ar gael ar y campws, o gyn lleied â £3.40 am greision, brechdan a diod yn Tesco Express i daten bob gynnes yng Nghanolfan Hideaway o £3.25 yn unig!

Os ydych yn ffafrio opsiynau heb gig, ceir dewis eang o gynhyrchion, gan gynnwys burrito llysieuol llawn protein yn Tortilla, neu stiw ffacbys ac aubergine Libaneaidd i dynnu dŵr o’ch dannedd – mae rhywbeth at ddant pawb! 

Mae pryd o fwyd ar gael i fodloni pob chwaeth, cyllideb a dewis – cymerwch gip ar amserau agor ein mannau arlwyo.