CHWARAEWCH HOCI PERFFORMIAD YN ABERTAWE

Mae ein rhaglen perfformiad eithriadol i ddynion a merched sy'n chwarae hoci yn darparu hyfforddiant lefel elît, gwasanaethau gwyddor chwaraeon, rheoli ffordd o fyw i athletwyr, ffisiotherapi a chymorth cryfder a chyflyru.

Mae'r pecyn cymorth hwn, ar y cyd â chyfleusterau arloesol Parc Chwaraeon Bae Abertawe a chaeau chwarae wedi'u cymeradwyo gan FIH, yn ogystal â chanolfan cryfder a chyflyru elît ar Gampws Singleton yn golygu bod ein rhaglen hoci ymhlith y rhaglenni gorau sydd ar gael.

Mae ein tîm dynion yn cystadlu yng Nghynghrair Hoci Gorllewin Lloegr, yn ogystal â Chwpan Cymru, ac mae'r tîm cyntaf yn chwarae yn yr Uwch-gynghrair, un cam o'r gynghrair genedlaethol.

Mae ein tîm menywod yn chwarae yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr ac ym mhob un o gynghreiriau de Cymru. Mae ein tîm menywod cyntaf yn chwarae yn Adran Gyntaf - Gogledd y Gynghrair Genedlaethol, yn ogystal â hanes o gwblhau mewn cystadlaethau Ewropeaidd Dan Do ac Awyr Agored

Yn 2023, mae'r Menywod yn cystadlu yn y Gystadleuaeth Ewropeaidd Dan Do yn Cambrai (Ffrainc) a'r Gystadleuaeth Awyr Agored yn Fiena (Awstria). Mae'r Dynion wedi cyrraedd y Gystadleuaeth Awyr Agored yn Banbridge (Iwerddon) am y tro cyntaf mewn 15 mlynedd.

Os hoffech ymuno â'n timau hoci, ewch i dudalen y clwb ar wefan yr undeb myfyrwyr, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein rhaglen perfformiad uchel, cysylltwch â'n Rheolwr Perfformiad Hoci drwy e-bost.

CYFLEOEDD NODDI HOCI

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i chi mewn perthynas â'n tîm hoci ac i gefnogi'r timau neu chwaraewyr, gan ar yr un pryd adeiladu eich brand.

E-bostiwch ni