CHWARAEWCH BÊL-DROED PERFFORMIAD YM MHRIFYSGOL ABERTAWE

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cynnig cyfleoedd eithriadol i fyfyrwyr sydd am barhau â'u hastudiaethau academaidd, ond gan geisio gwireddu eu breuddwydion pêl-droed ar yr un pryd.

Drwy ein rhaglen pêl-droed perfformiad uchel, rydym yn meithrin chwaraewyr talentog drwy becynnau ysgoloriaeth cynhwysfawr a all gynnwys hyfforddiant, gwasanaethau gwyddor chwaraeon, rheoli ffordd o fyw i athletwyr, ffisiotherapi a chymorth cryfder a chyflyru; oll wedi'u cyflwyno gan weithwyr proffesiynol hynod brofiadol.

Mae ein sgwad perfformiad dynion yn cystadlu ar lefel uchaf BUCS, ac ar lefel ddomestig yn JD De Cymru, y gynghrair ddomestig uchaf ond un yng Nghymru. Rydym yn dîm penderfynol uchel ein cymhelliant sy'n anelu'n uchel ac yn awyddus i gystadlu ar lefel uchaf o bêl-droed yng Nghymru.

Os hoffech ymuno â'n tîm pêl-droed, ewch i dudalen y clwb ar wefan yr undeb myfyrwyr, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein rhaglen perfformiad, cysylltwch â'n Rheolwr Perfformiad Pêl-droed drwy e-bost.

CYFLEOEDD NODDI PÊL-DROED DYNION

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i chi mewn perthynas â'n tîm pêl-droed dynion ac i gefnogi'r tîm neu chwaraewyr, gan adeiladu eich brand eich hun ar yr un pryd.

E-bostiwch ni