CHWARAEWCH RYGBI PERFFORMIAD MERCHED YN ABERTAWE

Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cynnig cyfleoedd anhygoel i fyfyrwyr sydd am barhau â'u hastudiaethau academaidd, ond gan ganlyn eu gyrfa rygbi ar yr un pryd.

Drwy ein rhaglen rygbi merched perfformiad uchel, rydym yn datblygu chwaraewyr i'w potensial uchaf mewn amgylchedd cadarnhaol, gan annog disgyblaeth, ymrwymiad, uniondeb ac anrhydedd, ar y cae ac oddi arno. 

Rydym yn ceisio darparu'r profiad rygbi gorau posibl, gan roi'r cyfle i bob chwaraewr, boed yn brofiadol neu'n newydd i'r gêm, gyflawni ei botensial unigol llawn.

Os hoffech ymuno â'n tîm rygbi, ewch i dudalen y clwb ar wefan yr undeb myfyrwyr, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein rhaglen perfformiad uchel, cysylltwch â'n Rheolwr Perfformiad Rygbi drwy e-bost.

CYFLEOEDD NODDI RYGBI MERCHED

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i chi mewn perthynas â'n tîm rygbi dynion ac i gefnogi'r tîm neu chwaraewyr, gan adeiladu eich brand eich hun ar yr un pryd.

E-bostiwch ni