Yn cyfuno platfformau a phrosesau lled-ddargludydd a deunyddiau uwch i ddarparu technolegau a chynhyrchion newydd. Yn helpu i feithrin y sgiliau a'r doniau i sicrhau bod ein diwydiant yn parhau ar flaen y gad.
Yn darparu amrywiaeth o wasanaethau, o ymchwil awyr las i ymchwil a datblygu technoleg, prototeipio a datblygu prosesau, gwasanaethau arbenigol, deori, ymgysylltu, hyfforddiant a mynediad i bortffolio grantiau arloesi'r DU a'r UE.
Gweithgynhyrchu'n cwrdd ag ymchwil a datblygu
Bydd y Ganolfan yn darparu cyfleuster integredig pwrpasol ar gyfer ymchwil a datblygu technoleg lled-ddargludydd ar Gampws y Bae newydd Prifysgol Abertawe, gan gynnwys:
Ystafelloedd glân safon gweithgynhyrchu, wedi'u hachredu gan ISO, at ddiben datblygu prosesau
Gallu integreiddio a phecynnu deunyddiau diwedd proses
Labordai ymchwil NNG uwch
Cyfleuster twf II/III-VI MOCVD
Lleoliadau i gwsmeriaid ddeori BBaCh
Mynediad i gyfleusterau nodweddu a dadansoddi uwch [microsgopeg, dadansoddi arwynebau, cemegol, optegol, trydanol]
Mynediad i'r deunyddiau diweddaraf a damcaniaeth ac efelychu lefel dyfais
Nid adeilad yn unig yw'r Ganolfan. Mae'n gysyniad amlddisgyblaethol gydweithredol ar draws sawl sector, a nodweddir gan rwydwaith o bartneriaethau sy'n deillio o'r ecosystem sy'n cwmpasu Lefelau Parodrwydd Technoleg sydd eisoes yn cael ei ddatblygu yn ne Cymru. SU, IQE, SPTS a NWF yw prif bartneriaid y Ganolfan. Mae naw partner pellach wedi ymuno'n ddiweddar. Rydym yn parhau i gasglu mwy o gefnogaeth, felly cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb.
Datblygwyd y cysyniad hwn mewn partneriaeth â'n prif bartneriaid dros y 12 mis diwethaf drwy Fwrdd Rhaglen CISM, sy'n cwrdd bob mis i ddatblygu cysyniadau a'r rhaglen yn gyffredinol.
Lleolir y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludydd Integreiddiol (CISM) arfaethedig yng nghanol Campws y Bae, Prifysgol Abertawe yn yr ardal beirianneg bresennol. Bydd y lleoliad hwn yn caniatáu gwaith ar y cyd a chyfle i rannu cyfleusterau â'r adeiladau peirianneg presennol sydd o gwmpas.
Mae tri llawr i'r adeilad arfaethedig sy'n cynnwys 4320m2 o ystafell lân, cyfleusterau ymchwil a swyddfeydd. Datblygwyd yr adeiladau i fod â graddfeydd priodol i'r adeiladau o gwmpas, ac mae'n cyd-fynd â’r prif gynllun presennol i ddatblygu'r campws mewn safle datblygu cyfredol. Bydd yr adeilad yn defnyddio technegau adeiladu cynaliadwy ac ynni effeithlon a thechnoleg ynni adnewyddadwy gan gynnwys ffotofoltäig solar ac adfer gwres. Ein nod yw cyrraedd asesiad isaf BREEAM, sef 'Ardderchog.' Gellir dod o hyd i ddyluniadau cysyniadol o'r cyfleuster yn ogystal â màs yr adeilad isod.
Mae is-bwyllgor dylunio'r Ganolfan yn cynnwys cynrychiolwyr o'n prif bartneriaid yn y diwydiant, Prifysgol Abertawe gan gynnwys ein tîm Ystadau a phenseiri ac ymgynghorwyr technegol. Mae'r is-bwyllgor dylunio'n cyfarfod yn rheolaidd i wthio cynnydd yn ei flaen. Mae'r prosiect ar gam 1 RIBA ar hyn o bryd.