Mae ein cynllun gweithredu hygyrchedd yn dangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd y Ddesg Wasanaeth TG:

  • Adolygu ein disgrifiadau amgen ar erthyglau sylfaen gwybodaeth er mwyn sicrhau eu bod yn briodol ac o gymorth i ddefnyddwyr.
  • Dileu unrhyw destun sydd â chyferbyniad isel a dilyn canllawiau er mwyn sicrhau nad ydym yn creu problemau pellach.
  • Darparu manylion diffygion cydymffurfio a nodwyd wrth brofi yn fewnol i ServiceNow a gofyn am ddatrysiadau.
  • Adrodd am unrhyw bryderon hygyrchedd difrifol a materion a godwyd gan ddefnyddwyr i ServiceNow fel eu bod yn gallu mynd i’r afael â nhw cyn gynted â phosibl.

Ymgymerir â'r gwaith hwn dros y 12 mis nesaf.