Mae prif lwybr defnyddiwr y Ddesg Wasanaeth TG yn cynnwys gwneud cais, adrodd am broblem a chanfod gwybodaeth.

Profwyd y tudalennau canlynol:

  • Tudalen Lanio
  • Tudalen ‘Gofyn am Rywbeth’
  • Tudalen ‘Rhoi Gwybod am Broblem’
  • Tudalen Erthyglau ‘Sylfaen Gwybodaeth’
  • Tudalen Erthygl

 

Dyma’r broses awdit a ddilynwyd:

  • Profwyd y wefan dan sylw o ran ei chydymffurfiaeth â WCAG 2.1 safon A a WCAG 2.1 safon AA.
  • Cyflwynwyd detholiad o dudalennau i wiriwr awtomataidd gan ddefnyddio detholiad o offer awtomataidd.
  • Proses â llaw yn seiliedig ar restr wirio POUR
  • Defnyddiwyd darllenydd sgrîn NVDA i gwblhau set gyson o gamau gan gynnwys llywio, rhyngweithio, terfynau amser ac adfer gwallau ar bob tudalen a wiriwyd.
  • Profwyd tudalennau hefyd yn erbyn Talkback a phrofwyd sampl o dudalennau ar VoiceOver ar ffonau symudol.
  • Cwblhawyd y gwiriadau â llaw gan ddefnyddio gliniadur Windows, a ffônau Apple iPhone 8 a Samsung S9.

Cynhaliwyd y broses archwilio gan ein harbenigwr defnyddioldeb mewnol, gan nad oes gennym adnodd hygyrchedd penodol. Penderfynwyd ar yr ymagwedd hon ar sail maint y wefan, a'r amser, yr adnoddau a’r cyllid a oedd ar gael i’r sefydliad ar y pryd.

Mae'r adroddiad llawn am ein hygyrchedd mewnol ar gael ar gais.