Rydym yn mynd i'r afael ag allgáu digidol er mwyn helpu pobl i ymatal rhag trose

Rydym yn mynd i'r afael ag allgáu digidol er mwyn helpu pobl i ymatal rhag troseddu

Yr Her

Mae troseddu'n effeithio ar unigolion, teuluoedd, cymunedau, yr economi a chymdeithas yn gyffredinol, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Mae pobl yn y system cyfiawnder troseddol yn wynebu rhwyd gymhleth o stigma, allgáu ac anghydraddoldeb. Yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, ni roddwyd llawer o sylw i atal allgáu digidol yn y grŵp hwn. Heb fynediad at dechnoleg a'r byd digidol, ni all pobl yn y system cyfiawnder troseddol gael mynediad at gymorth ac adnoddau hanfodol yn y byd go iawn, sy'n hanfodol i'w helpu i ymatal rhag troseddu.

Y Dull

Nod ymchwil Dr Gemma Morgan yw deall allgáu digidol ymysg y rhai hynny sydd yn y system cyfiawnder troseddol a'i effaith ar eu hymatal rhag troseddu, eu lles a'u cynhwysiant cymdeithasol. Datblygodd Gemma a thîm ehangach ap My Journey, sy'n declyn hawdd ei ddefnyddio, yn seiliedig ar dystiolaeth, sy'n canolbwyntio ar bobl, er mwyn helpu pobl yn y system cyfiawnder troseddol i ymatal rhag troseddu a chyflawni canlyniadau cadarnhaol. Ar ben hynny, bydd y dechnoleg hon yn helpu sefydliadau ac ymarferwyr yn y system cyfiawnder troseddol i fabwysiadu ymarfer ar sail tystiolaeth i helpu pobl yn y system cyfiawnder troseddol a lleihau aildroseddu.

Cydweithredodd Dr Morgan â rhanddeiliaid yn y system cyfiawnder troseddol a Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru ac Include UK er mwyn mynd i'r afael ag allgáu digidol. Gwnaethant ddatblygu ap My Journey drwy adolygiadau systematig o lenyddiaeth, cydgynhyrchu, cyfweliadau, arolygon, grwpiau ffocws a phrofi UX. Mae partneriaid allweddol eraill yn cynnwys Llywodraeth Cymru, HMPPS, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, CEF Abertawe, CEF Parc, Uned Brawf Abertawe a chymdeithas y Wallich.

Ystyrir bod y gwaith o ddatblygu'r ap yn arloesol, ac mae Dr Gemma Morgan wedi ennill Ysgoloriaeth Fulbright yn y Ganolfan Hyrwyddo Rhagoriaeth Gywirol, Prifysgol George Mason. Bydd hyn yn archwilio'r potensial ar gyfer addasu ap My Journey ar gyfer yr Unol Daleithiau. Hyd yn hyn mae'r prosiect wedi cael cyllid gan grantiau Partneriaeth SMART Llywodraeth Cymru, Her Arloesi Ymadawyr Carcharau’r  Weinyddiaeth Gyfiawnder, a CHERISH-DE.

Yr Effaith

Arweiniodd ymchwil Gemma Morgan at greu ap  My Journey sy’n ap arloesol sydd wedi torri tir newydd ac mae wedi cael effaith sylweddol yn y system cyfiawnder troseddol. Mae'r ap, sydd wedi'i gynnwys yn Include UK, yn ategu ymatal rhag troseddu ac yn gwella cymorth ymarferwyr er mwyn darparu dull wedi'i deilwra'n well at ddiwallu anghenion unigolion.

Ar ben hynny, mae wrthi’n cael ei ddefnyddio mewn prosiect digartrefedd yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i fynd i'r afael â digartrefedd dros y pedair blynedd nesaf, gan gynnig craffter empirig gwerthfawr ynghylch allgáu digidol ymysg pobl yn y system cyfiawnder troseddol, sy'n faes nad yw wedi cael llawer o sylw yn ystod y 15 mlynedd diwethaf.

Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe
SU Health Innovation Research Theme.
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG 10