Trosolwg o'r pennod
Sut mae ymagwedd at dechnoleg ddigidol sy’n rhoi’r pwyslais ar bobl yn helpu i fynd i’r afael â phroblemau byd-eang. Mae’r cyfrifiadurwr, yr Athro Matt Jones, yn trafod ei ymchwil i seinyddion stryd yn India a sut mae gweithio gyda defnyddwyr newydd i ddylunio technoleg yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’w bywydau. Mae Matt hefyd yn siarad am ‘dywyllwch digidol’ yn nhermau preifatrwydd, deallusrwydd artiffisial, y dirywiad mewn cyfathrebu wyneb yn wyneb a sut gallwn ddefnyddio ymagwedd sy’n rhoi pwyslais ar bobl i oresgyn hyn.
Am ein harbenigwyr?
Mae’r gwyddonydd cyfrifiadurol, yr Athro Matt Jones, yn Bennaeth y Coleg Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei ymchwil yn mynd ag ef i leoedd megis Dharavi yn yr India a threflannau yn Cape Town, De Affrica, lle mae’n gweithio gyda phobl leol sy’n byw mewn amgylcheddau incwm isel i ddatblygu technolegau sy’n cynnig mynediad at wybodaeth. Mae Matt a’i dîm yn gosod unedau sain mewn lleoedd megis ciosgau ac mae defnyddwyr yn gofyn cwestiynau, yn debyg iawn i Google Home neu Amazon Echo. Gall y siaradwr gynnig atebion a grëir gan gyfrifiadur neu gellir cyfeirio’r cwestiynau at unigolyn. Mae Matt yn credu y bydd ymagwedd sy’n canolbwyntio ar bobl at dechnolegau digidol yn helpu i atal dyfodiad ‘Tywyllwch digidol” ac yn helpu i frwydro yn erbyn “dyfodiad y robotiaid”.
Gwrandewch ar eich hoff blatfform
Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.