Hanna Morgans o Ysgol Bro Teifi yw enillydd Her 2022

Siaradwr gorau yn erbyn oedd Rebecca Rees o Ysgol Bro Teifi

Hanna Morgans a Rebecca Rees o Ysgol Bro Teifi

Cystadleuaeth ddadl gyhoeddus yn y Gwyddonle

Mae Prifysgol Abertawe yn noddi ac yn cynnal gweithgareddau yn y GwyddonLe, Pafiliwn Gwyddoniaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Mae Her Sefydliad Morgan wedi bod yn rhan o weithgareddau’r GwyddonLe ers 2018. 

Fel rhan o arlwy'r GwyddonLe, cynhaliwyd cystadleuaeth ddadl gyhoeddus Her Sefydliad Morgan unwaith eto eleni. Noddir y gystadleuaeth gan Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan,  canolfan Prifysgol Abertawe sy’n canolbwyntio ar ymchwil trawsnewidiol rhyngddisgyblaethol. Nod y gystadleuaeth yw rhoi cyfle i ddisgyblion arddangos eu sgiliau rhesymu a dadlau yn ogystal â derbyn adborth gan feirniaid blaenllaw ym maes polisi a gwleidyddiaeth.

Roedd hi'n braf iawn bod yn ôl ar faes Eisteddfod yr Urdd ar ôl cynnal y gystadleuaeth ar-lein y llynedd, a phrofi bwrlwm a chyffro'r digwyddiad yn y cnawd. Yn plethu gyda thema'r GwyddonLe ar gyfer 2022 sef 'Iechyd', testun y ddadl oedd ‘Dylai fod yn orfodol i bobl gael eu brechu yn erbyn heintiau difrifol er lles cymdeithas’.

Daeth cynulleidfa fawr i wylio'r ddadl a chlywed disgyblion o Ysgol Bro Teifi ac Ysgol Bro Pedr yn mynd ben ben. Cafwyd dadleuon gwych o blaid brechu gan Hanna Morgans o Ysgol Bro Teifi a Taidgh Mullins o Ysgol Bro Pedr, a Rebecca Rees o Fro Teifi ac Ifan Meredith o Fro Pedr yn cyflwyno'u dadleuon cadarn nhw yn erbyn y gosodiad.

Roedd safon y gystadleuaeth yn wirioneddol arbennig a phob cystadleuydd wedi cyflwyno'u dadleuon yn hyderus ac yn huawdl dros ben. Roedd hi'n dasg anodd tu hwnt i'r beirniaid, sef y gwleidydd Llŷr Gruffydd AS a’r Athro Angharad Puw Davies o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Ond penderfyniad y beirniaid oedd mai'r siaradwr gorau yn erbyn y gosodiad oedd Rebecca Rees o Ysgol Bro Teifi a'r siaradwr gorau o blaid oedd Hanna Morgans, hefyd o Ysgol Bro Teifi. Dyfarnwyd mai Hanna oedd Siaradwr Gorau'r gystadleuaeth ac felly hithau oedd enillydd Tlws Her Sefydliad Morgan 2022. Mae'r ddwy wedi ennill gwobr ariannol o £500 i'w hysgol a bydd Hanna hefyd yn cael cyfle i fynd ar brofiad gwaith o'i dewis hi wedi'i drefnu gan Academi Hywel Teifi.

Meddai'r beirniad Llŷr Gruffydd AS, "Roedd hi’n braf beirniadu’r gystadleuaeth yma yn Eisteddfod yr Urdd. Fe glywsom areithwyr graenus a hyderus iawn ac roedd hi’n gystadleuaeth glos."

Lluniau'r Gwyddonle 2022

Untitled