Rhai o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe yn llunio neges 2021
Myfyrwyr o Brifysgol Abertawe sydd wedi llunio neges Heddwch ac Ewyllys Da 2021 Urdd Gobaith Cymru ar ran pobl ifanc Cymru ac fe fydd neges-fideo ohoni yn cael ei rhyddhau ar y 18fed o Fai 2021.
Thema y neges eleni yw “Cydraddoldeb i Ferched”, a mynychodd un-ar-hugain o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe weithdai o dan ofal y bardd a’r awdur Llio Maddocks a Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd er mwyn paratoi’r neges i’w chyhoeddi i’r byd. Mae wedi’i chyfieithu i dros 65 o ieithoedd ac mae ymrwymiad y bobl ifanc hyn i wneud gwahaniaeth wedi bod yn ysbrydoledig.
Yn ogystal â gweithio gyda’r Urdd i hyrwyddo’r neges trwy gyfryngau cymdeithasol a chydag ysgolion, bydd cyfle i rai o’r myfyrwyr i deithio i Efrog Newydd ar gyfer digwyddiad yn adeilad y Cenhedloedd Unedig yn Hydref 2021, yn ddibynnol ar reoliadau COVID-19.
Yn ddi-dor ers 1922, mae’r neges wedi’i hanfon yn flynyddol ar y 18fed o Fai ar ran pobl ifanc Cymru at bobl ifanc yng ngweddill y byd gan ysgogi ac ysbrydoli gweithgarwch dyngarol a rhyngwladol.
Does dim un gwlad arall yn y byd wedi llwyddo i wneud hyn, gan oroesi rhyfeloedd byd a newidiadau sylweddol mewn dulliau cyfathrebu, o Morse Code i radio a'r gwasanaeth postio, i'r rhwydweithiau digidol heddiw.
Dysgwch fwy ar dudalen Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2021 ar wefan yr Urdd