"Yn y bôn, ymgeisiais i fod yn rhan o’r gwaith o lunio’r Neges gan fod y thema eleni mor bwysig ac yn un sy’n agos i 'nghalon fel person sydd yn ystyried ei hun yn ffeminist. Trwy gydol fy mywyd, yn bersonol ac yn broffesiynol, mae menywod cryf a chadarn wedi bod yn bresennol i helpu fi, ac felly rwy’n credu bod gen i ddyletswydd i roi nôl a helpu i frwydro yn erbyn anghydraddoldeb. Mae gan yr Urdd blatfform arbennig ac mae gan y Neges yma'r potensial i allu wir wneud gwahaniaeth o fewn cymdeithas.
"Mae'r profiad wedi bod yn un bendigedig ac yn fythgofiadwy. Cafodd bob sesiwn ei arwain yn arbennig ac er eu bod ar Zoom, roedd yn bosibl i deimlo'r egni anhygoel roedd pawb yn ei gyfrannu i bob sesiwn ac roedd hi’n braf trafod gyda phobl o feddylfryd tebyg. Mae'r neges yn adleisio'r pethau wnaethon ni eu trafod yn berffaith a dwi wir yn meddwl ei bod yn neges amserol iawn. Dwi'n hynod o ddiolchgar i'r holl fenywod a deimlodd yn gyfforddus i rannu profiadau a storiâu personol yn fy nghwmni.
"Rwyf wedi ymrwymo i barhau i wrando ar fenywod ac addysgu fy hunan er mwyn ceisio deall y problemau sydd yn eu heffeithio, a pharhau i siarad allan yn erbyn anghydraddoldeb rhyw. Dwi hefyd am geisio dylanwadu ar ddynion a phwysleisio ei bod hi yn bosibl i fod yn ddyn sy'n ffeminist ac sy'n cefnogi hawliau menywod."