Newydd! Cysylltwch â ni ar-lein

Mae Arian@BywydCampws yn cynnal gwasanaeth dan arweiniad ymgynghorwyr i fyfyrwyr drwy e-bost a sgwrsio byw. Wrth gysylltu â'r gwasanaeth, a wnewch chi sicrhau eich bod chi'n darparu'r holl wybodaeth berthnasol.

Edrychwch ar ein rhestr o gwestiynau cyffredin ynghylch datrys problemau y mae tîm Arian@BywydCampws wedi rhoi at ei gilydd ar sail y cwestiynau mwyaf cyffredin y mae myfyrwyr yn eu gofyn. Os na allwch chi ddod o hyd i'r ateb i'ch cwestiynau ymysg y cwestiynau cyffredin yna mae croeso i chi gysylltu â ni.

Gallwch chi gysylltu â ni drwy sgwrs fyw am ymholiadau cychwynnol y bydd ymgynghorydd yn ceisio eu datrys ar unwaith. Rhaid i chi gadarnhau eich enw a'ch rhif myfyriwr ar ddechrau pob sgwrs fyw. Yn ystod sgwrs fyw, os bydd yn amlwg bod eich ymholiad yn gymhleth a bod angen rhagor o wybodaeth i ymdrin ag ef, efallai y bydd yn rhaid parhau â'ch ymholiad all-lein drwy e-bost.

Peidiwch â chysylltu â ni drwy fwy nag un dull am yr un ymholiad. Mae hyn yn dyblygu gwaith yn ddiangen. Rydyn ni'n dîm bach sy'n ymdrin ag ymholiadau ac achosion ariannu cymhleth ymysg yr holl grwpiau o fyfyrwyr, gan gynnwys darpar fyfyrwyr. Mae'r un tîm hefyd yn asesu pob cais i'r gronfa caledi myfyrwyr. Ein nod yw cynnig gwasanaeth cynhwysfawr ac amserol. Felly, rydyn ni'n gwerthfawrogi eich cydweithrediad a'ch amynedd yn fawr.

Diolch am eich amynedd a'ch cefnogaeth.

Cysylltwch  Ni

chat loading...

Cysylltwch ag Arian@BywydCampws

Bydd Sgwrs Fyw ar gau rhwng 28/03/24 a 04/04/24.

Os nad yw Sgwrs Fyw ar gael, gallwch anfon e-bost atom ar money.campuslife@swansea.ac.uk  

Dydd Llun

Dydd Mawrth

Dydd Iau

13:00 – 15:00

10:00 – 12:00

13:00 – 15:00

Noder: bydd Arian@BywydCampws yn cadw copi o bob sgwrs fyw, i’w storio yn unol â chanllawiau GDPR.

Ymholiadau yn ymwneud ag arian myfyrwyr, cysylltwch â:

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud ag arian myfyrwyr, gallwch anfon e-bost atom yn arian.bywydcampws@abertawe.ac.uk Rhaid i fyfyrwyr ddefnyddio eu e-bost myfyriwr wrth gysylltu ag unrhyw un o e-byst neu staff Arian@BywydCampws

Cronfeydd Caledi cysylltwch â;

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein Cronfeydd Caledi neu fwrsariaethau Myfyrwyr+ fel bwrsariaeth Ymadawyr Gofal, bwrsariaeth myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio ac ati, e-bostiwch hardshipfunds@swansea.ac.uk Rhaid i fyfyrwyr ddefnyddio eu e-bost myfyriwr wrth gysylltu ag unrhyw un o e-byst neu staff Arian@BywydCampws

Bwrsariaethau Cyffredinol

Os hoffech weld gwybodaeth am Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau cyffredinol y mae Prifysgol Abertawe yn eu cynnig, gwelwch y dudalen we ddynodedig a chysylltwch â'r adran weinyddu yn uniongyrchol.

Ysgoloriaethau a bwrsariaethau - Israddedig

Ysgoloriaethau a bwrsariaethau - Ôl-raddedig

Ysgoloriaethau a bwrsariaethau - Rhyngwladol