YSGOLORIAETHAU MEISTR A ADDYSGIR

MEYSYDD PWNC AMRYWIOL: YSGOLORIAETH NODDFA PRIFYSGOL ABERTAWE 2024

 

Mae ceisiau ar gyfer yr ysgoloriaeth noddfa 2024 nawr ar agor.

Dyddiad cau: 4pm ddydd Iau 6 Mehefin 2024.

Gwybodaeth Allweddol

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gyhoeddi'r Ysgoloriaeth Noddfa. Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd cyfartal mewn addysg uwch i bobl sy'n ceisio lloches yn y DU, a’u helpu i gyflawni eu potensial llawn a’u huchelgeisiau.

Bydd yr Ysgoloriaeth Noddfa yn cefnogi un myfyriwr ar gwrs Meistr Ôl-raddedig a Addysgir bob blwyddyn academaidd. Mae'r Ysgoloriaeth yn cynnig un dyfarniad ar gyfer rhaglen meistr ôl-raddedig a addysgir gymwys sy'n dechrau ym mis Medi 2024, ac mae'n cynnwys:

  • Bwrsariaeth ffïoedd dysgu lawn i dalu ffïoedd dysgu cwrs meistr ôl-raddedig a addysgir.
  • Mae grant ar gael i helpu tuag at gostau byw ac astudio a'r uchafswm yw £12,000 ar gyfer hyd y cwrs, a delir fel ariantal rheolaidd.

Yn ogystal â'r cymorth ariannol a restrir uchod, bydd gan ddeiliad yr ysgoloriaeth noddfa fynediad at wasanaethau BywydCampws a gwasanaethau cymorth y Brifysgol drwy gydol ei astudiaethau, gan gynnwys cymorth llyfrgell ac enw cyswllt yn nhîm staff y Brifysgol