Mae Becky North (née James) yn gyn-feiciwr proffesiynol dros Gymru a oedd yn arbenigo mewn beicio ar y trac. Enillodd hi bencampwriaeth y byd yn 2013 yn rasys y sbrint a'r keirin, ac enillodd ddwy fedal arian yn y Gemau Olympaidd yn Rio yn 2016.
Mynychodd hi Ysgol King Henry VIII yn y Fenni a dechreuodd ei gyrfa beicio yng Nghlwb Beicio Ffordd y Fenni. Ar ôl denu sylw Tîm Talent Cymru, daeth hi'n aelod o raglen medalau Olympaidd (Olympic Podium Programme) y corff sy'n llywodraethu beicio ym Mhrydain, sef British Cycling. Bu'n beicio dros Gymru a thîm beicio Prydain Fawr.
Ym mis Gorffennaf 2009, enillodd hi'r fedal aur yng nghystadlaethau'r sbrint a'r ras 500 metr yn erbyn y cloc a'r fedal arian yn y keirin ym Mhencampwriaeth Beicio ar y Trac Ewrop. Fis yn ddiweddarach, enillodd hi rasys y keirin a'r sbrint ym Mhencampwriaeth Beicio ar Drac Iau'r Byd a gynhaliwyd gan UCI, yn ogystal â chipio medal arian yn y ras 500 metr yn erbyn y cloc a gosod record y byd am y ras 200 metr ar wib.
Yn nes ymlaen yn 2009, enillodd hi wobr The Daily Telegraph/Aviva am ddisgybl benywaidd gorau'r flwyddyn.
Yn 2010, yn 19eg Gemau’r Gymanwlad, cynrychiolodd Gymru ac ennill y fedal efydd yn y ras drac 500m TT a medal arian yn y ras drac sbrint. Fe'i henwebwyd ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales yn 2010 ond enillodd Gareth Bale yn y diwedd.
Cafodd ei dewis ar gyfer Rhaglen Datblygu Olympaidd British Cycling ond yna cafodd lwybr carlam i Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Ym Mhencampwriaethau UCI 2013, curodd Kristina Vogel o'r Almaen 2-1 yn ras derfynol pencampwriaeth sbrint y byd ac ennill ei medal aur gyntaf.
Yn hytrach na chynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014, bu'n rhaid iddi dynnu'n ôl o ganlyniad i anaf i'w phen-glin.
Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2016 yn Rio de Janeiro, enillodd fedalau arian yn y keirin a'r sbrint.
Ym mis Awst 2017, cyhoeddodd ei bwriad i ymddeol o feicio a sefydlu busnes pobi.
Ym mis Mehefin 2019, priododd hi â'i phartner hirdymor, sef George North, y chwaraewr rygbi rhyngwladol o Gymru. Ym mis Mai 2020, cyhoeddodd y pâr fod eu mab Jac wedi cael ei eni. Ym mis Hydref 2021, ganwyd eu mab Tomi.