Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu doethuriaeth llên er anrhydedd i Euros Lyn, cyfarwyddwr arobryn rhaglenni teledu a ffilmiau sydd wedi cyfrannu at Doctor Who, Happy Valley, Black Mirror, Broadchurch, a Heartstopper.

Cafodd Euros Lyn ei eni yng Nghaerdydd ym 1971 a'i fagu yn Guyana yn ne America, yng Ngwynedd yng ngogledd Cymru, ac yn Ynystawe yng nghwm Tawe. Cafodd ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera, cyn graddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Drama o Brifysgol Manceinion.

Ar ôl cwblhau ei radd, bu Euros Lyn yn gyfarwyddwr cynorthwyol ar raglenni Cymraeg ar gyfer S4C. Aeth ei yrfa i lefel arall pan gafodd ei benodi'n gyfarwyddwr ochr yn ochr â Russell T Davies, uwch-gynhyrchydd a anwyd yn Abertawe, ar gyfres Doctor Who wrth iddi gael ei hail-lansio yn 2005. Cyfarwyddodd 12 o benodau rhwng 2005 a 2010, gan ennill gwobr BAFTA Cymru am y Cyfarwyddwr Gorau a Gwobr Hugo.

Mae Euros Lyn wedi ennill gwobr BAFTA Cymru am y Cyfarwyddwr Gorau sawl gwaith, yn fwyaf diweddar am Kiri gyda Sarah Lancashire. Yn ogystal, cyfarwyddodd Fifteen Million Merits, rhan o'r antholeg Black Mirror ar gyfer Channel 4, a enillodd Emmy Rhyngwladol am y Gyfres Ddrama Orau.

Cyfarwyddodd dair pennod o gyfres gyntaf Broadchurch, dwy gyfres o Last Tango in Halifax, pennod beilot Happy Valley a Damilola, Our Loved Boy, rhaglen ddrama untro, ac enillodd pob un o'r pedair rhaglen hyn wobrau BAFTA.

Yn 2015, derbyniodd Wobr Siân Phillips gan BAFTA Cymru am gyfraniad sylweddol at ffilm hir fawr neu raglen deledu ar gyfer un o'r rhwydweithiau. Ef yw'r unig gyfarwyddwr hyd yn hyn sydd wedi derbyn y wobr flaenllaw hon.

Mae Euros Lyn hefyd wedi cyfarwyddo tair ffilm hir. Yn 2016, ef oedd cyfarwyddwr Y Llyfrgell/The Library Suicides, ffilm ias a chyffro a ddefnyddiodd Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth fel y lleoliad annhebygol ar gyfer llofruddiaeth a chynllwyn. Yn dilyn ei dangosiad cyntaf yng Ngŵyl Ffilmiau Sundance, cafodd ei ffilm Dream Horse, gyda Toni Collette a Damian Lewis, ei rhyddhau yn 2021, gan ddilyn stori wir Dream Alliance, ceffyl rasio annhebygol a gystadlodd yn Ras Genedlaethol Cymru yn y pen draw. Caiff ei ffilm ddiweddaraf, The Radleys, sy'n seiliedig ar nofel fampirod Matt Haig, ei rhyddhau y flwyddyn nesaf ar Sky Cinema.

Yn ei gyfres boblogaidd fwyaf diweddar, Heartstopper, am bobl ifanc LHDTC+ sy’n dod i oedran, mae Euros Lyn wedi ailgydio yn neunydd sy'n amlwg yn bwysig iddo ar lefel ddyfnach – gan adlewyrchu'r heriau emosiynol a chymdeithasol y mae pobl ifanc yn eu hwynebu yn yr 21ain ganrif a rhoi llais iddynt. Yn seiliedig ar nofelau graffig Alice Oseman, mae'r gyfres gadarnhaol ar Netflix sydd wedi ennill clodydd yn bortread gwirioneddol ond calonogol o stori gariad Charlie a Nick a phrofiadau newidiol eu ffrindiau yn eu harddegau o berthnasoedd. 

Heddiw, er gwaethaf gyrfa ar y llwyfan rhyngwladol, mae Euros wedi ymgartrefu yn ne Cymru, ac mae'n byw yn Llangynydd gyda'i ŵr, Craig, a'i gi, Brychan.

Wrth dderbyn ei wobr er anrhydedd, meddai Euros Lyn: “Mae'n bleser gen i dderbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe, ac mae'n destun cyffro i mi gyfrannu at Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu'r Brifysgol, sy'n addysgu ac yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr a thechnegwyr i greu sioeau teledu a ffilmiau poblogaidd y dyfodol.”