Mae Jonny Owen, y cynhyrchydd, yr actor a'r gwneuthurwr ffilmiau a aned ym Merthyr, wedi derbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.

Gwnaed Owen, 52 oed, yn Ddoethur mewn Llên o flaen cannoedd o fyfyrwyr a oedd yn graddio o Gyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol ddydd Iau 27 Gorffennaf.

Graddiodd Jonny o Brifysgol Abertawe gyda BA mewn Hanes ym 1999 a dechreuodd ei yrfa actio pan oedd yn dal yn fyfyriwr. Yn ddiweddarach, aeth ymlaen i ymddangos yn rhai o'r sioeau teledu mwyaf yn y DU, gan gynnwys Shameless, Torchwood, Murphy’s Law a My Family.

Yn 2006, dyfarnwyd gwobr BAFTA Cymru i Jonny am ei ffilm ddogfen am drychineb Aberfan. Ef oedd cyd-gynhyrchydd y ffilm.

Yn 2017, ac yntau'n frwd am bêl-droed, cyfarwyddodd y ffilm ddogfen Don't Take Me Home, a gafodd ei chanmol gan y beirniaid. Dilynodd y ffilm rediad Cymru i rownd gynderfynol Ewro 2016 a haf cofiadwy i gefnogwyr Cymru yn Ffrainc.

Ymunodd teulu Jonny a'i ddarpar wraig, Vicky McClure MBE, yn y dathliadau graddio. Mae Vicky yn fwyaf adnabyddus am ei rolau fel Ditectif Arolygydd Kate Fleming yn y gyfres Line of Duty ar y BBC, a Lol Jenkins yn y ffilm This Is England a'r gyfres fer a'i dilynodd ar Channel 4. Dyfarnwyd MBE iddi'n ddiweddar yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin am ei gwasanaethau i feysydd drama ac elusennau, ar ôl iddi weithio i gynyddu ymwybyddiaeth o glefyd Alzheimer, yn ogystal â chreu côr i helpu'r rhai sydd â'r salwch.

Cyfarfu'r pâr ar set y ffilm Svengali yn 2013, lle perfformiodd Vicky rôl Shell, cariad ar y sgrîn ei darpar ŵr erbyn hyn, a ysgrifennodd sgript y ffilm hefyd. Cafodd Svengali ei dangos pan gynhaliwyd Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Caeredin am y 67fed tro, ac fe'i henwebwyd am Wobr Michael Powell, sy'n anrhydeddu'r ffilm hir orau o Brydain.

Mae Jonny bellach yn byw yn Nottingham, dinas frodorol McClure, ac ef fu cyfarwyddwr y cyfryngau a chyfathrebu Clwb Pêl-droed Nottingham Forest – yn ogystal â bod yn aelod o'r bwrdd – ers mis Mawrth 2018. Cyn hynny, yn 2015, roedd wedi cyfarwyddo'r ffilm I Believe in Miracles, gan adrodd stori oes aur Forest dan Brian Clough yn y 1970au a'r 1980au.

Ar dderbyn ei ddyfarniad er anrhydedd, meddai Jonny: “Mae derbyn y dyfarniad hwn gan Brifysgol Abertawe wir yn un o anrhydeddau mwyaf fy mywyd. A minnau'n un o gyn-fyfyrwyr Abertawe, mae'n teimlo hyd yn oed yn fwy arbennig i mi. Newidiodd fy mywyd ar ôl i mi fynd i Brifysgol Abertawe. Yn wir, fyddwn i ddim wedi cyrraedd fy sefyllfa bresennol heb bobl y brifysgol a bydda i'n ddyledus iddyn nhw am byth. Roedden nhw'n credu ynof i a ches i anogaeth barhaus ganddyn nhw pan oeddwn i'n fyfyriwr ac yn y degawdau ar ôl i mi adael. Mae'n bleser i mi ddychwelyd unwaith eto a diolch iddyn nhw wyneb yn wyneb.”