Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno dyfarniad er anrhydedd i Helen Howson, cymeriad blaenllaw ym myd iechyd a gofal.

Mae Helen yn ymgynghorydd iechyd y cyhoedd sy'n meddu ar amrywiaeth eang o brofiad o iechyd y cyhoedd, polisïau iechyd a chynllunio a chyflawni strategol yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Hi yw Cyfarwyddwr Comisiwn Bevan – y felin drafod fwyaf blaenllaw ym maes iechyd a gofal yng Nghymru – yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, lle mae'n darparu cyngor annibynnol i'r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yn helpu i roi'r cyngor hwnnw ar waith ledled Cymru. Roedd Helen hefyd yn ddylanwadol wrth greu Academi Bevan ac Arloeswyr Bevan ac wrth arwain yr agenda arloesi a thrawsnewid.

Mae Helen wedi cael sawl uwch-swydd yn Llywodraeth Cymru, yn ddiweddar fel Uwch-gynghorydd Strategaeth a Phennaeth y Strategaeth Iechyd Sylfaenol a Chymunedol. Treuliodd beth amser ar secondiad i Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Cyfarwyddwr Rhaglenni Strategol ac fel Cynghorydd Arbenigol i Gomisiwn Bevan lle roedd yn ddylanwadol wrth arwain ei waith, yn enwedig yr agenda Gofal Iechyd Darbodus. Roedd hefyd yn gyfrifol am arwain adolygiad gweinidogion o wella iechyd, ac yng Nghymru am sefydlu Rhaglen y Blynyddoedd Cynnar a helpu i drawsnewid gwasanaethau Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

Cyn hynny, roedd Helen wedi cael nifer o uwch-swyddi yn Swyddfa'r Prif Swyddog Meddygol, Awdurdod Hybu Iechyd Cymru a Churiad Calon Cymru. Mae wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu, rheoli a gwerthuso rhaglenni a chontractau iechyd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynnwys rhaglenni iechyd cyhoeddus Ewropeaidd, cydgadeirio un o grwpiau cynghori'r Undeb Ewropeaidd a rheoli prosiect Ewropeaidd pum gwlad ar anghydraddoldebau iechyd. Mae wedi darparu arbenigedd cenedlaethol a rhyngwladol i Sefydliad Iechyd y Byd, yr Undeb Ewropeaidd a systemau gofal iechyd a llywodraethau eraill, gan gynnwys Gweinyddiaethau Iechyd Rwsia, Seland Newydd a Sbaen.

Gwnaeth Helen gydgynllunio rhaglen Meistr Iechyd Cyhoeddus Sefydliad Iechyd y Byd ym Mhrifysgol Karolinska yn Stockholm ac addysgu arni am fwy na 10 mlynedd, a hi oedd Cyfarwyddwr rhaglen arweinyddiaeth ôl-raddedig i feddygon a deintyddion ym Mhrifysgol Bryste.

Drwy ei gwaith diflino a'i brwdfrydedd, mae Helen Howson wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i faes darparu ac addysgu iechyd a gofal, yng Nghymru a thramor, ac mae'n wych bod ganddi gysylltiad mor gryf â Phrifysgol Abertawe drwy ei rôl gyda Chomisiwn Bevan.

Ar dderbyn ei dyfarniad er anrhydedd, meddai Helen: “Rwy'n teimlo'n falch ac yn freintiedig iawn wrth dderbyn y dyfarniad uchel ei fri hwn gan Brifysgol Abertawe i gydnabod fy ngwaith ym maes iechyd. A minnau'n Gyfarwyddwr Comisiwn Bevan, rydyn ni'n gwerthfawrogi'n fawr y cysylltiadau cryf a'r cymorth rhyngon ni a Phrifysgol Abertawe a'r cyfleoedd y mae hyn yn eu cynnig wrth atgyfnerthu gweithgarwch addysgu ac ymchwil o ran polisi ac ymarfer.”