Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i Marvin Rees, Maer Bryste, i gydnabod ei gyflawniadau neilltuol a'i gyfraniadau at gymdeithas.

Cyflwynwyd DLitt (Doethur mewn Llên) i Mr Rees ddydd Mercher 26 Gorffennaf gan yr Athro Ryan Murphy, Deon Gweithredol a Dirprwy Is-ganghellor, yn ystod seremoni raddio Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Astudiodd Marvin Rees ym Mhrifysgol Abertawe, gan ennill BSc Econ mewn Hanes Economaidd ac yn ddiweddarach MA mewn Gwleidyddiaeth. Graddiodd ym 1994.

Dechreuodd ei yrfa broffesiynol yn Tearfund, cyn iddo weithio gyda Sojourners yn Washington, DC a Dr Tony Campolo, ymgynghorydd i'r Arlywydd Clinton. Ar ôl iddo ddychwelyd i'r DU, bu'n gweithio fel newyddiadurwr darlledu gyda BBC Bristol, yn cynorthwyo'r sector gwirfoddol a arweinir gan Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn The Black Development Agency, ac yn cyfrannu at hyrwyddo cydraddoldeb hiliol mewn gwasanaethau iechyd meddwl gyda thîm Iechyd Cyhoeddus y GIG ym Mryste.

Mae Marvin Rees yn meddu ar ddwy radd Meistr: mewn Damcaniaeth Wleidyddol a Llywodraeth gan Brifysgol Abertawe, ac mewn Datblygu Economaidd Byd-eang o Brifysgol Eastern, Pensylfania. Mae hefyd yn Gymrawd Byd-eang yn Yale ac mae wedi graddio o Fenter City Leadership Bloomberg Harvard. Dechreuodd ym maes gwleidyddiaeth ar ôl cymryd rhan mewn rhaglenni Operation Black Vote ac Ymgeiswyr y Dyfodol y Blaid Lafur.

Ym mis Mai 2016, cafodd Marvin Rees ei ethol yn Faer am y tro cyntaf, a chafodd ei ailethol ym mis Mai 2021. Ef yw'r unigolyn cyntaf o dras Du Affricanaidd i gael ei ethol yn uniongyrchol i rôl maer mewn dinas fawr yn Ewrop. 

Drwy gydol ei gyfnod cyntaf yn y swydd, cyflawnodd gerrig milltir niferus, gan gynnwys darparu bron 9,000 o gartrefi, cyhoeddi system cludiant torfol, rhoi profiad gwaith o safon uchel i fwy na 3,500 o blant, a datblygu'r Cynllun Un Ddinas. Arweiniodd y cais llwyddiannus i ddod â Channel 4 i Fryste ac ymateb y ddinas i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol, yn ogystal â'r pandemig a'r argyfwng costau byw. Yn 2022, traddododd sgwrs TED am rôl dinasoedd wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mae Marvin hefyd yn un o gymrodyr er anrhydedd RIBA ac yn ddiweddar cyrhaeddodd restr fer Gwobr World Mayor 2023.

Marvin Rees yw Cadeirydd Core Cities UK a Chadeirydd bwrdd dinas-ranbarthau'r Gymdeithas Llywodraeth Leol, yn ogystal â bod yn Gyd-gadeirydd Urban Futures Commission y DU, yn aelod sefydlu o'r MMC (Cyngor Meiri ar Ymfudo), yn aelod arweiniol o GPM (Senedd Fyd-eang Meiri) ac yn aelod o Banel Cynghori'r Work Foundation, ymysg rolau eraill.

Ar dderbyn ei ddyfarniad er anrhydedd, meddai Marvin Rees: “Mae Prifysgol Abertawe'n lle arbennig i mi. Yn ystod y 1990au, rhoddodd hi gyfle i mi ddianc amgylchiadau fy mhlentyndod. Dysgais i lawer iawn: amdana i fy hun, am bobl wahanol i mi, a sut i ddysgu... yn ogystal â sut i chwarae rygbi i'r brifysgol, wrth gwrs!

“Roedd yn arbennig i mi fynd i Brifysgol Abertawe gan fod fy nhad-cu wedi cael ei eni ym Merthyr Tudful. Roedd e’n fab i löwr ac, er gwaethaf ei allu academaidd, roedd yn rhy dlawd i gael addysg uwch. Roedd hi'n bwysig iawn iddo fy mod i wedi mynd i'r brifysgol o gwbl, ac i brifysgol yng Nghymru'n benodol.

“Bydda i bob amser yn ddiolchgar i Brifysgol Abertawe a dinas Abertawe am yr amgylchedd meithringar sydd yma. Rhoddodd hyn blatfform i mi feithrin cyfeillgarwch â phobl sydd wedi parhau hyd heddiw. Mae derbyn gradd er anrhydedd yma heddiw'n anrhydedd anferth: diolch yn fawr iawn.”

Meddai'r Athro Murphy: “Mae wedi bod yn bleser i mi gyflwyno'r dyfarniad er anrhydedd hwn i gyn-fyfyriwr mor uchel ei fri o Brifysgol Abertawe. Mae Marvin Rees wedi cyflawni cymaint ac mae wedi cyfrannu cymaint at gymdeithas i'w wneud yn hollol deilwng o dderbyn y dyfarniad er anrhydedd hwn.”