Gwirfoddoli Cyn-fyfyrwyr: Dathlu Straeon Llwyddiant

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym ni'n falch fod gennym ni gymuned fywiog o gyn-fyfyrwyr sy'n rhoi o'u hamser a'u harbenigedd i gefnogi ein myfyrwyr presennol. Drwy ein Rhaglen Mentora Proffesiynol gan Gyn-fyfyrwyr, mae llawer o'n cyn-fyfyrwyr wedi chwarae rôl hanfodol wrth helpu myfyrwyr i lywio eu llwybrau academaidd a gyrfa. Rydym ni wrth ein boddau i rannu rhai o'r straeon llwyddiant o'r llynedd, sy'n dyst i effaith gadarnhaol gwirfoddoli gan gyn-fyfyrwyr.

Gabriela

Mentai a myfyriwr Geneteg yn ei phedwaredd flwyddyn

Gabriela - Mentai a myfyriwr Geneteg yn ei phedwaredd flwyddyn

Wedi cymryd rhan yn y rhaglen, cyflawnodd Gabriela ei nod o gael Interniaeth Wyddonol yn Oxford Nanopore Technologies.

“Rwyf wedi cael profiad ardderchog gyda'r rhaglen fentora hyd yma, ac wedi datblygu profiad a sgiliau hynod werthfawr sy'n gysylltiedig â'm nodau gyrfa. Mae fy mentor wedi bod yn hynod gefnogol drwy gydol y broses, gan ddarparu adborth a chanllawiau adeiladol i mi sydd wedi fy helpu i fireinio fy CV a'm llythyr eglurhaol. Yn ogystal, mae wedi rhoi mewnwelediad gwerthfawr i mi i fywyd yn y diwydiant sydd wedi fy helpu i deimlo'n fwy hyderus am fy rhagolygon yn y dyfodol."

Joanna Nicholas

Mentor, BEng Gwyddoniaeth a Pheirianneg, 1999

Joanna Nicholas – Mentor, BEng Gwyddoniaeth a Pheirianneg, 1999

“Mae'r Rhaglen Mentora gan Gyn-fyfyrwyr wedi bod yn hynod gyffrous i mi fel mentor, oherwydd fy mod i wedi gallu gweld y myfyrwyr rwy’n eu mentora’n magu hyder o'r sesiwn gyntaf tan y sesiwn olaf. Fel mentor, fy rôl i yw gofyn y cwestiynau agored, dod i adnabod yr unigolyn a'i gynorthwyo wrth weithio drwy'r camau nesaf tuag at ei nodau. Weithiau, gallaf wneud sylwadau ar sail fy mhrofiadau personol a chynnig cyngor, ond yn aml, mae'r atebion ar gael i’r myfyriwr drwy hunanarchwilio.

Mae wedi bod yn fraint i mi fentora nifer o fyfyrwyr drwy'r cynllun, ac mae pob tro wedi bod yn wahanol, ond mae'r canlyniad o ran hyder y myfyrwyr a'm brwdfrydedd i wrth eu gweld yn datblygu wedi bod yr un peth.

Sut i gymryd rhan

Rhannwch eich profiadau a'ch dealltwriaeth, a helpwch ein myfyrwyr i ddatgloi eu potensial a chyflawni eu nodau. I ddysgu rhagor am y rhaglen fentora, cliciwch yma.

Mentora Proffesiynol a Fflach