Polisi Recordio Darlithoedd a Chynnwys Addysgu
- Amdanom ni
- Canmlwyddiant 2020
- Hanes a threftadaeth
- Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
- Bywyd y campws
- Cynaliadwyedd
- Chwaraeon
- Astudio
- Datblygu'r Campws
- Swyddfa'r Wasg
- Sut i ddod o hyd i ni
- Diwrnod Agored Rhithwir
- Ein Cyfadrannau
- Swyddi a Gweithio yn Abertawe
- Academi Hywel Teifi
- Adran Partneriaethau Academaidd
- Gwasanaethau Academaidd a Cyfarwyddiaeth yr Academïau
- Gwasanaethau Ansawdd Academaidd
- Codau Ymarfer
- Sicrhau Ansawdd
- Polisïau
- Polisi Recordio Darlithoedd a Chynnwys Addysgu
- Platfform Dysgu Digidol: Polisi Isafswm Safonau a Disgwyliadau
- Polisi Cadw Cyrsiau’r Amgylchedd Dysgu
- Polisi Adborth Modiwlau
- Fframwaith Llywodraethu Gwybodaeth am Fodiwlau
- Polisi ar Arsylwi ar Addysgu gan Gymheiriaid
- Polisïau sy'n Ymwneud ag Addysg
- Polisïau Eraill
- Safonau Gofynnol ar gyfer Ymarfer Addysg
- Polisi Cyfieithu Cynnwys Academaidd Ysgrifenedig
- Adolygiad Ansawdd
- Polisïau
- Cwrdd â Thîm
- Rhagoriaeth Addysgu
- Llyfrgelloedd ac Archifau
- Gwasanaethau Ansawdd Academaidd
- Hygyrchedd
- Cynwysoldeb ac Ehangu Mynediad
- Ein Cyfeiriad Strategol
- Staff
- Gwerthoedd
- Rhaglen Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton
- Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
- Ymrwymiad i Technegwyr
1. Diben
Diben y polisi hwn yw nodi fframwaith clir a'r hyn a ddisgwylir gan staff a myfyrwyr o ran creu a defnyddio recordiadau, i gefnogi gweithgareddau yr ymgymerir â nhw mewn sesiynau dysgu ac addysgu wyneb yn wyneb. Nod y polisi hwn yw helpu i reoli’r heriau a’r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â recordio gweithgareddau o'r fath, gan ystyried agweddau addysgegol, cyfreithiol, hygyrchedd, eiddo deallusol a diogelu data perthnasol.
At hynny, nod y polisi hwn yw egluro’r disgwyliad y bydd myfyrwyr yn bresennol wyneb yn wyneb mewn sesiynau addysgu (oni chânt eu hatal rhag gwneud hynny o ganlyniad i amgylchiadau esgusodol dilys) ac y caiff recordiadau eu defnyddio i ategu'r sesiynau hynny, gan alluogi myfyrwyr i edrych ar ddeunydd addysgu eto, yn hytrach na disodli presenoldeb yn y sesiynau addysgu eu hunain.
2. Trosolwg
Mae'r ddogfen hon yn nodi polisi'r Brifysgol ar gefnogi’r defnydd o ddeunyddiau wedi’u recordio a recordio sesiynau addysgu gan gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithgareddau dysgu mewn grwpiau a chynnwys arall, ac mae'n berthnasol i recordiadau sain, fideo ac aml-ddull o sesiynau a addysgir gan gynnwys:
- Gweithgareddau ar y campws (cydamserol ac anghydamserol) a gaiff eu recordio gan ddefnyddio system recordio darlithoedd y Brifysgol;
- Deunyddiau a recordiwyd o flaen llaw (e.e. podlediadau);
- Sesiynau a gyflwynir ar-lein mewn amser go iawn; ac
- unrhyw recordiadau eraill a deunyddiau cysylltiedig (megis trawsgrifiadau o recordiadau).
2.1
Ym Mhrifysgol Abertawe ac ar draws y sector, mae disgwyliadau ac angen cynyddol am recordio gweithgareddau dysgu perthnasol a'u gwneud yn hygyrch i fyfyrwyr. Mae'r newid hwn yn cyd-fynd ag ymagwedd fwyfwy cynhwysol a chymysg at ddysgu ac addysgu, ac fe'i cefnogir gan ymchwil sy'n dangos y gall recordiadau o gynnwys addysgu gael effaith gadarnhaol ar berfformiad academaidd, ond dim ond pan fyddant yn ategu sesiynau wyneb yn wyneb, yn hytrach na disodli’r sesiynau wyneb yn wyneb eu hunain.*
* To capture the research landscape of lecture capture in university education - PMC (nih.gov)
2.2
Mae'r Brifysgol yn cydnabod y canlynol:
- Nod darparu recordiadau o ddarlithoedd yw cyfoethogi profiad y myfyrwyr ac nid yw'n disodli presenoldeb a chyfranogiad mewn darlithoedd.
- Yr unig raglenni neu fodiwlau sy'n addas i'w hastudio'n llwyr ar-lein yw'r rhai hynny y nodir eu bod yn rhaglenni neu'n fodiwlau dysgu o bell. Mae strwythur addysgegol pob rhaglen arall yn ei gwneud hi’n ofynnol i fyfyrwyr gyfranogi wyneb yn wyneb.
- Nid yw pob gweithgaredd dysgu yn addas i’w recordio, e.e. pan ddefnyddir byrddau gwyn, arddangosiadau etc. neu os bydd llawer o ryngweithio â'r gynulleidfa.
- Efallai y bydd materion moesegol, neu’r defnydd o ddeunydd sensitif yn golygu na fydd hi’n briodol recordio sesiwn benodol ac y dylid gwneud trefniadau eraill i recordio’r sesiwn honno at ddibenion hygyrchedd.
2.3
Mae'r Brifysgol wedi rhoi dull hunan-recordio ar waith, drwy ymgynghori â staff a myfyrwyr. Mae'r dull hwn yn defnyddio meddalwed Panopto. At hynny, gellir defnyddio cynhyrchion eraill a gefnogir gan y Brifysgol i wneud recordiadau gan gynnwys Canvas Studio.
2.4
Mae'n bosib y bydd y myfyrwyr eu hunain yn gallu recordio rhai gweithgareddau dysgu gan ddefnyddio dyfeisiau symudol ar yr amod bod ganddynt ganiatâd i wneud hynny drwy Ffurflen Anabledd, neu y bydd modd recordio gweithgareddau ar eu rhan nhw gan y staff cymorth arbenigol. Hefyd gellir cyflwyno cais am gymorth cynorthwy-ydd dynol sy'n gwneud nodiadau drwy'r Lwfans Cynorthwy-ydd Anfeddygol. Gan fod yr opsiwn hwn yn tueddu i gynhyrchu recordiadau o safon is, dylid ystyried hyn fel opsiwn wrth gefn yn unig.
2.5
Mae buddion addysgol recordio gweithgareddau dysgu'n cynnig adnodd defnyddiol a hygyrch i fyfyrwyr a gellir ei ddefnyddio yn y ffyrdd canlynol, ymhlith llawer o ffyrdd eraill:
- Darparu cymorth crynodeb at ddibenion ail-wylio, myfyrio ac adolygu.
- Cynorthwyo myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf.
- Cefnogi myfyrwyr na allant fod yn bresennol oherwydd amgylchiadau esgusodol megis salwch neu gyfrifoldebau gofalu.
- Cynorthwyo myfyrwyr a chanddynt anghenion cymorth addysgol penodol ac y gallai fod angen addasiadau arnynt er mwyn gallu cymryd rhan yn effeithiol.
3. Disgwyliadau.
3.1
Mae Prifysgol Abertawe'n disgwyl i'r holl aelodau staff ddarparu recordiadau neu ddull amgen cyfwerth ac addas i fyfyrwyr ar gyfer sesiynau 'addysgu bloc' h.y. darlithoedd, sesiynau tiwtorial a mathau eraill o addysgu a ddarperir mewn bloc dwys (gweler Tymhorau Dysgu ac Addysgu a Diffiniadau ar gyfer Dulliau Cyflwyno Gwahanol). Gall dulliau amgen addas fod ar ffurfiau amrywiol megis fideo a recordiwyd o flaen llaw, ond mae'n rhaid iddynt gyfateb i'r sesiwn addysgu ac ymdrin â'r un cynnwys. Disgwylir i'r holl staff ddefnyddio'r Gwasanaeth Recordio Darlithoedd a Chynnwys a ddarperir gan y Gwasanaethau Digidol ym Mhrifysgol Abertawe, ac eithrio yn yr amgylchiadau a ragwelir yn 3.6 isod.
3.2
Rhaid i'r penderfyniad i beidio â gwneud recordiad yn unol â 3.1 gael ei wneud ar lefel y Rhaglen ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, er mwyn sicrhau ymagwedd gyson ac y caiff strategaeth glir ei chyfleu i fyfyrwyr ac ar y cyd â nhw. Os yw aelod staff unigol o'r farn nad yw sesiwn addysgu'n addas i'w recordio, dylid trafod hyn â Chyfarwyddwr y Rhaglen ac Arweinydd Addysg yr Ysgol a dylent gytuno ar ddull amgen i’w ddarparu i fyfyrwyr.
Dylid rhoi gwybod i fyfyrwyr am y penderfyniad a'r rheswm dros hyn ar ddechrau'r flwyddyn academaidd. Dylid sicrhau bod deunyddiau dysgu ar gael i fyfyrwyr mewn fformat gwahanol i gefnogi eu dysgu h.y podlediad a recordiwyd o flaen llaw, cyflwyniadau etc. Dylid cadw cofnod o'r penderfyniad hwnnw a'r rhesymau drosto, a dylid cyfeirio ato wrth adolygu'r modiwl a'r rhaglen at ddibenion sicrhau ansawdd, ac adrodd amdano drwy bwyllgorau perthnasol y Gyfadran. Dylid ceisio adborth gan fyfyrwyr a myfyrio arno.
3.3
Yn ystod y flwyddyn academaidd, dylai'r aelod staff drafod unrhyw newidiadau i'r penderfyniad ynghylch a ddylid recordio sesiynau addysgu penodol â Chyfarwyddwr y Rhaglen ac Arweinydd Addysg yr Ysgol er mwyn gwneud penderfyniad ac yna dylid cyfleu'r penderfyniad hwnnw a'r rhesymau drosto i'r myfyrwyr.
3.4
Gallai fod amgylchiadau ad hoc pan na fydd modd recordio o ganlyniad i amgylchiadau nas rhagwelwyd (e.e. problemau technoleg etc). Ar yr achlysuron hyn, mae'n bosib na fydd modd rhoi gwybod i fyfyrwyr o flaen llaw na fydd modd recordio darlith. Mewn amgylchiadau o'r fath, caiff dull amgen ei ddarparu o fewn 48 awr o'r sesiwn a gollwyd, mewn cydymffurfiaeth â Pholisi Safonau Gofynnol y Platfform Dysgu Digidol.
3.5
Mae rhesymau pam na allai sesiynau addysgu gael eu recordio, ynghyd â dulliau amgen, yn cynnwys:
3.5.1
Pan gyflwynir sesiwn mewn ffordd sy’n golygu nad yw'r sesiwn honno’n addas i gael ei recordio, h.y. lle ceir lefel uchel o ryngweithio h.y. holi ac ateb, profiadau cyfyrddol, (e.e. gwaith labordy) etc.
3.5.2
Yn yr amgylchiadau anghyffredin hynny pan fydd trafodaeth neu weithgareddau'n cynnwys gwybodaeth gyfrinachol neu bersonol neu sensitif o safbwynt masnachol neu wleidyddol.
3.5.3
Lle byddai recordio’n amharu ar brofiad y myfyrwyr. Er enghraifft, pan fyddai creu recordiad yn amharu ar gyfranogiad myfyrwyr a'u dysgu effeithiol, h.y. trafodaeth ymhlith cyfoedion, datrys problemau ar y cyd.
3.5.4
Lle gall fod rhesymau cyfreithiol, moesegol neu breifatrwydd dros beidio â'u recordio.
3.5.5
Lle nad yw'r cyfleuster i recordio'r gweithgaredd ar gael yn y man dysgu ac nid oes gan staff addysgu fynediad at ddull arall o recordio'r sesiwn. Os nad oes modd recordio oherwydd diffyg cyfleusterau neu fethiant y system, ni fydd modd i fyfyrwyr ddefnyddio hyn fel sail dros gyflwyno cwyn.
3.6
Dylai staff sy'n cyflwyno'r gweithgaredd dysgu roi gwybod i'r myfyrwyr y bydd y gweithgaredd yn cael ei recordio. Dylent gymhwyso doethineb ac oedi neu olygu recordiad yn nes ymlaen, er enghraifft os yw deunydd sensitif yn cael ei addysgu neu os byddai recordio'n ymyrryd ag addysgu rhyngweithiol.
3.7
Mae Prifysgol Abertawe'n disgwyl i staff, myfyrwyr a chyfranwyr allanol gydymffurfio â holl ddeddfwriaeth berthnasol y DU ac Ewrop o ran hawlfraint. Dylai staff sicrhau bod ganddynt y caniatâd hawlfraint priodol i ddefnyddio unrhyw ddeunydd a drafodir yn y recordiad. Mae cyngor pellach ar gael drwy openaccess@abertawe.ac.uk a gellir dod o hyd i arweiniad yn http://libguides.swansea.ac.uk/copyright.
3.8
Dylai recordiadau fod ar gael i'r myfyrwyr hynny sydd wedi cofrestru ar y modiwl/rhaglen yn unig oni bai bod y staff sy'n cyflwyno'r gweithgarwch dysgu wedi cytuno bod modd eu rhannu ag eraill.
3.9
Er mwyn sicrhau cydraddoldeb o ran mynediad, gall myfyrwyr lawrlwytho recordiadau ar gyfer defnydd personol yn unig.
3.10
Os bydd myfyrwyr yn defnyddio recordiad heblaw am at ddiben defnydd personol mewn perthynas â'u hastudiaethau neu os byddant yn dosbarthu'r fath ddeunydd heb ganiatâd, a hynny'n llawn neu'n rhannol, ystyrir hyn yn achos o dorri'r Polisi Defnydd Derbyniol o Dechnoleg Ddigidol a byddant yn destun camau disgyblu.
3.11
Efallai y bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i recordio gweithgareddau dysgu ar ffurf sain at ddibenion astudio pan na fydd unrhyw recordiadau swyddogol ar gael.
3.12
Ni chaniateir i unrhyw weithgaredd dysgu gael ei recordio'n gudd a chaiff ei drin fel tramgwydd disgyblu. Efallai y bydd modd i rai myfyrwyr recordio gweithgaredd, ar yr amod bod hyn yn argymhelliad ar gyfer addasiad rhesymol. Cynghorir myfyrwyr i ymgyfarwyddo â'r disgwyliadau ynghylch recordio cyfrifol. Gweler Polisi Addasiadau Rhesymol ar gyfer Dysgu ac Addysgu - Prifysgol Abertawe.
3.13
Rhaid i fyfyrwyr ddileu unrhyw recordiad y cawsant ganiatâd i'w recordio ar unwaith ar ôl i'w statws fel myfyriwr yn y Brifysgol ddod i ben a chaiff defnydd o unrhyw recordiadau ei lywodraethu gan y polisi hwn.
3.14
Ni ddefnyddir recordiadau ar gyfer adolygiadau datblygiad proffesiynol staff nac at ddibenion dyrchafu staff oni bai bod yr aelod staff dan sylw'n penderfynu eu defnyddio.
4. Recordio ac Anabledd
4.1
Mae'n bosib y bydd addasiadau neu gymorth ar waith i gefnogi myfyrwyr ag anableddau i recordio mewn amgylchoedd dysgu ac addysgu. Ni fydd y polisi hwn yn effeithio ar y trefniadau presennol sydd ar waith ar gyfer myfyrwyr anabl mewn perthynas â gweithgareddau dysgu. Gweler Polisi Addasiadau Rhesymol ar gyfer Dysgu ac Addysgu - Prifysgol Abertawe.
5. Eiddo Deallusol
5.1
Mae recordiadau a wneir gan ddefnyddio'r feddalwedd yn destun polisi presennol y Brifysgol ar eiddo deallusol. Gweler adran 4 Deunyddiau Addysgu a Deunyddiau Academaidd Eraill i gael rhagor o wybodaeth: Polisi Eiddo Deallusol Prifysgol Abertawe.
6. Diogelu Data
6.1
Os ydych chi’n recordio unigolion, gall materion diogelu data fod yn berthnasol. Gellir ystyried bod lluniau o unigolion yn ddata personol os oes modd adnabod yr unigolion. Felly, bydd yn rhaid i’r Brifysgol sicrhau cydymffurfiaeth â darpariaethau Deddf Diogelu Data 2018 (fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd).
6.2
Er mwyn prosesu data personol, a fyddai’n cynnwys golygu, storio a/neu ddosbarthu’r fideo os yw’n cynnwys data personol, mae angen cydsyniad gan wrthrych y data. Felly, mae'n bwysig hysbysu unrhyw gynulleidfa y bydd y ddarlith yn cael ei ffilmio a’i gwneud hi’n glir y byddant yn cael eu ffilmio.
6.3
Ni fydd y cyfleuster recordio darlith a ddefnyddir o reidrwydd yn recordio'r gynulleidfa. Os oes posibilrwydd y bydd aelodau'r gynulleidfa'n cael eu ffilmio, dylid eu hysbysu ar lafar, drwy hysbysiadau ysgrifenedig penodol a/neu hysbysiadau mewn mannau amlwg.
7. Cadw Data
7.1
Pan fydd cyfnod arholiadau atodol y flwyddyn academaidd wedi dod i ben, bydd yr holl recordiadau o ddarlithoedd yn cael eu dileu o’r system. Cyfrifoldeb y rhai sy’n creu’r cynnwys fydd hysbysu Tîm Cymorth Clyweledol Prifysgol Abertawe bod angen i'w recordiadau barhau i fod ar gael o un flwyddyn academaidd i’r flwyddyn nesaf.
7.2
Os na fydd recordiadau'n cael eu dileu ar ddiwedd y cyfnod arholiadau atodol, dylid cael cydsyniad unigolion y gellir eu hadnabod yn y recordiadau.