Rydym yn lleihau carbon yn y diwydiant awyrennau

Rolls-Royce turbine

Yr Her

Mae Rolls-Royce yn cyflenwi tua 50% o beiriannau awyrennau newydd i'r diwydiant awyrennau byd-eang, gan ei fod yn un o dri phrif weithgynhyrchwr peiriannau awyrennau sifil â llyfr archebion sy'n werth dros £15bn. Dros y degawd diwethaf, mae nifer y teithiau mewn awyren ledled y byd wedi cynyddu'n sylweddol ac, felly, mae'r angen wedi cynyddu i leihau allyriadau CO2 a gynhyrchir gan y diwydiant awyrofod. Y brif ffordd o leihau allyriadau carbon o beiriannau tyrbin nwy yw lleihau pwysau neu gynyddu tymheredd gan wella effeithlonrwydd thermol.  Roedd Rolls-Royce yn wynebu'r her o ddatblygu deunyddiau diogel ac effeithiol ar gyfer yr amodau gweithredu heriol hyn. Mae Prifysgol Abertawe'n Bartner Technoleg Prifysgol (UTP) o fewn fframwaith Canolfannau Technoleg Prifysgol (UTC) a chyda'n harbenigedd sefydledig yn y maes hwn, buom yn gweithio gyda Rolls-Royce i ddatrys y problemau cymhleth hyn. 

Y Dull

Mae ymchwil Abertawe mewn meysydd megis sensitifrwydd preswyl oer [R1], technoleg codi uwch, ymddygiad lludded aloeon titaniwm newydd [R2], ymgipriad [R3], twf hollt o ganlyniad i ludded thermo-mecanyddol [R4], uwch-aloeon nicel [R5], ac ymchwiliadau i brosesau weldio cyflwr solet ar gyfer disgiau llafn [R6 -gweler y cyfeiriad yn yr adran cyhoeddiadau], wedi cael effaith fasnachol ac economaidd sylweddol.  Drwy well dealltwriaeth o ymddygiad mecanyddol, anffurfiad a mecanweithiau methiant, mae ymchwilwyr yn Abertawe wedi diffinio amodau gweithredu diogel ar gyfer amrywiaeth o aloeon titaniwm a nicel a ddefnyddir mewn cymwysiadau gwyntyll, cywasgydd a thyrbin yn y genhedlaeth bresennol o beiriannau Trent Rolls-Royce.

Yr Effaith

Mae'r ymchwil wedi gwneud cyfraniad technolegol hollbwysig at weithgynhyrchu peiriannau tyrbin nwy effeithlon a gwydn, sydd, yn y bôn, yn cefnogi'r broses o ddatgan oes gweithio ddiogel cydrannau troi hanfodol. O ganlyniad i ymchwil Abertawe, mae Rolls-Royce wedi llwyddo i osgoi costau sylweddol o fwy na £3.5bn drwy leihau costau cydrannau ac estyn oes ddiogel cydrannau troi hanfodol. Mae ymchwil a gwblhawyd gan ein tîm ym Mhrifysgol Abertawe, fel rhan o ymdrech gydweithredol fwy, wedi cyfrannu at ostyngiad 1% yn nefnydd tanwydd penodol gan beiriannau Rolls-Royce. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn allyriadau CO2 gan y diwydiant awyrofod gan alluogi Rolls-Royce i gadw cyfran gyfwerth ag o leiaf 50% o'r farchnad awyrennau sifil fyd-eang.

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG 9 - innovation
Goal 13: Climate Action

Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig (CU)

Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe