Mynd i'r afael â heriau cymdeithasol a byd-eang drwy arloesi gweithgynhyrchu ac ymgysylltu cydweithredol.
Mae arloesi ym maes gweithgynhyrchu yn cynnig offer pwerus ar gyfer mynd i'r afael â heriau cymdeithasol a byd-eang cyfoes. Mae Prifysgol Abertawe ar flaen y gad o ran arloesi ym maes gweithgynhyrchu, gydag ymchwil uwch yn cwmpasu meysydd cyflenwol, gan gynnwys gweithgynhyrchu digidol, deunyddiau arloesol, gweithgynhyrchu ychwanegion, technolegau argraffu a chaenu, modelu cyfrifiadol, a datrysiadau ynni. Mae ffocws strategol y sefydliad yn canolbwyntio ar drosi'r arloesiadau blaengar hyn yn atebion gweithgynhyrchu cynhwysol y gellir eu rhoi ar waith ar raddfa ehangach, er mwyn gallu mynd i'r afael â heriau byd-eang cyfoes.
Mae defnyddio datrysiadau technolegol newydd, ynghyd ag arferion cynaliadwy a chynhwysol, yn paratoi'r ffordd ar gyfer dyfodol cynaliadwy a chynhwysol. Wedi'i lywio gan weledigaeth o economi wyrddach sy'n fwy ymwybodol o'r amgylchedd, rhoddir pwyslais ar ddatblygu prosesau gweithgynhyrchu sy'n gwneud y defnydd gorau o ddeunyddiau gwyrdd, ffynonellau ynni adnewyddadwy, a thechnegau lleihau gwastraff. Mae'r dull hwn yn galluogi cynhyrchu eco-gyfeillgar ac yn ein symud tuag at ôl troed carbon sero net.
O ran effaith gymdeithasol, mae gan dechnolegau gweithgynhyrchu cynhwysol y potensial i rymuso cymunedau ar y cyrion drwy greu cyfleoedd swyddi a sbarduno datblygiad economaidd. O gefnogi busnesau lleol i feithrin entrepreneuriaeth, mae'r datblygiadau arloesol hyn yn hyrwyddo tegwch cymdeithasol a ffyniant economaidd.
Mae cydweithredu yn allweddol i'r genhadaeth hon. Mae cyd-greu atebion gyda phartneriaid yn y diwydiant ac ymgysylltu â chymunedau i lunio polisïau ac arferion yn pontio'r bwlch rhwng technoleg, diwydiant, cymdeithas a pholisi, a thrwy hynny sbarduno gwydnwch a chynaliadwyedd. Drwy weithgareddau allgymorth helaeth, anogir ymgysylltiad ehangach â'r cyhoedd ynghylch y daith drawsnewidiol hon. Wrth i dechnolegau gweithgynhyrchu uwch gael eu rhoi ar waith ar lefel ehangach, mae dyfodol mwy gwydn a llewyrchus yn cael ei greu.