Gweithdy Ymchwiliadau Trawsffiniol Digidol Blynyddol

Europol logo

Text 1

Aeth grŵp o'n myfyrwyr MA Seiberdroseddu a Therfysgaeth, Georgina Butler, Luke Johnston, Matthew Bryan, Nina Kelly, Seren Thomas and Vanessa Montinho, ar daith i bencadlys Europol yn ddiweddar – darllenwch eu blog isod.

 

“Aethon ni i'r Gweithdy Ymchwiliadau Trawsffiniol Digidol Blynyddol a drefnwyd gan dîm SIRIUS ym mhencadlys Europol. Cawson ni groeso cynnes gan y staff ym mhencadlys Europol ac roedden ni'n gallu cymysgu â'r aelodau eraill a oedd yn bresennol yn yr adeilad hardd ei ddyluniad a oedd yn bendant yn ymddangos yn addas ar gyfer sefydliad diogelwch rhyngwladol. Cynhaliwyd y gweithdy yn un o'r ystafelloedd cynadledda ac roedd pecyn croeso wedi'i osod yn daclus ar bob sedd.

Europol HQ

Nod y gweithdy oedd dod â myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol o bob rhan o Ewrop ynghyd i drafod heriau presennol ymchwiliadau ar-lein. Daeth y siaradwyr o sawl disgyblaeth a sector, gan gynnwys y byd academaidd, y gyfraith a gorfodi'r gyfraith. Roedd yn gyfle i feithrin dealltwriaeth ardderchog o'r broses ymchwilio o safbwyntiau gwahanol.

Trefnwyd y gweithdy mewn ffordd a roddodd drosolwg rhesymegol a gwybodus i ni o'r dirwedd ymchwilio, gan ddechrau gydag elfennau ar-lein troseddu, ymgymryd â’r broses o ymchwilio a chasglu tystiolaeth, a gorffen â'r problemau cyfreithiol.

Yn y sesiwn gyntaf, rhoddodd Dr Lella Nouri, Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Abertawe, gyflwyniad gafaelgar ar ‘The Online Components of Crime: the Example of Terrorism’. Gwnaethon ni ddysgu am y ffyrdd gwahanol y mae eithafwyr a therfysgwyr yn defnyddio'r rhyngrwyd a sut rhoddodd dyfodiad y dechnoleg hon gyfle i'r gweithredwyr hyn i arloesi eu strategaethau ac ehangu eu cyrhaeddiad a'u dylanwad. Dangosodd y sesiwn hon sut mae mannau ar-lein yn agwedd bwysig ar droseddau penodol, a disgrifiodd y sefyllfa'n berffaith ar gyfer y cyflwyniadau dilynol.

Yn ail sesiwn y gweithdy, trafododd Ms Lorena Carthy-Wilmot y gwaith mae hi'n ei wneud fel Ymchwilydd Arbennig yn yr heddlu yn Norwy. Drwy ddefnyddio'r rhyngrwyd a phlatfformau ar-lein yn helaeth, mae llawer o ddata ar gael ar-lein, gan gynyddu'r cyfleoedd ar gyfer cudd-wybodaeth ffynhonnell agored (OSINT). Yn y sesiwn hon, gwnaethon ni ddysgu beth yw OSINT, sut mae'n cael ei defnyddio yng nghyd-destun ymchwiliad gan yr heddlu, ac am amrywiaeth eang o ffynonellau ac adnoddau OSINT.

Inside Europol HQ

Ar ôl dysgu am y broses o lunio cudd-wybodaeth drwy gasglu, gwerthuso a dadansoddi gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd, gwnaethon ni drafod pwysigrwydd gwella mynediad at dystiolaeth electronig, sydd wedi'i chyhoeddi ac sydd heb ei chyhoeddi, yn ystod ymchwiliadau troseddol, â Mr Tomas Penna. Felly, yn y drydedd sesiwn, o'r enw “SIRIUS: Cross-Border Access to Electronic Evidence”, gwnaeth yr Uwch-asiant ar gyfer Ymchwil Polisi ac Allgymorth yn nhîm SIRIUS Europol gyflwyno prosiect SIRIUS. Gwnaeth y sesiwn hon ein cyflwyno i'r gwaith y mae tîm SIRIUS yn ei wneud; sut mae'r tîm yn cydweithredu ag aelod-wladwriaethau’r UE a gwladwriaethau nad ydynt yn aelodau; safbwyntiau rhanddeiliaid gwahanol ynghylch sefyllfa tystiolaeth ddigidol.

Ar ôl hynny cawson ni ginio, lle cyflwynodd ffreutur Europol lawer o ddewisiadau hynod flasus. Rhoddodd y seibiant byr hwn ragor o amser i ni siarad â'r myfyrwyr eraill a'r staff a oedd yn bresennol yn y gweithdy dros goffi arferol. Er na chafwyd y te rydyn ni wedi arfer ag ef, roedd yn braf sgwrsio ag unigolion o'r un bryd wrth i ni yfed ein coffi.

Yn dilyn cinio, canolbwyntiodd y ddwy sesiwn olaf ar agwedd gyfreithiol y pwnc. Cyflwynwyd y bedwaredd sesiwn, o'r enw “Citizens’ Rights & Data Protection”, gan Ms Els de Busser, Athro Cysylltiol ar gyfer Llywodraethu Seiberddiogelwch ym Mhrifysgol Leiden. Yn y sesiwn hon, trafodwyd diffiniadau cyfreithiol ac ystyriwyd hawliau cyfreithiol sy'n ymwneud â data ar-lein. Gan fod y mwyafrif ohonon ni'n dod o ddisgyblaeth academaidd wahanol, roedd yn graff iawn a darparodd sylfaen wych o wybodaeth am y gyfraith i ni!

Yn olaf ond nid yn lleiaf, rhoddodd Mr Manuel Quintanar Díez, Athro yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Complutense Madrid, gyflwyniad craff i ni am dderbynioldeb e-dystiolaeth a safbwyntiau am y dyfodol. Yn benodol, gwnaethon ni ddysgu am ddefnyddio data am draffig a lleoliadau yn y sector cyfathrebu at ddibenion erlyn er mwyn mynd i'r afael â throseddau difrifol. Roedd hwn yn gyfle gwych i ddysgu mwy am ddeddfwriaeth a chyfraith achosion ar lefel yr Undeb Ewropeaidd, ac yn Sbaen yn benodol.

Gan fod digon o gyfleoedd i gyfranogwyr ofyn cwestiynau, roedd yn awyrgylch adeiladol i ni atgyfnerthu'r pynciau roedden ni wedi ymdrin â nhw yn ein cwrs MA mewn cyd-destun ymarferol.

Yn gyffredinol, roedd hwn yn brofiad anhygoel ac unigryw ac rydyn ni i gyd yn ddiolchgar iawn am gael cyfle mor wych i ymwneud â sefydliad uchel ei fri a dysgu cymaint am y pwnc rydyn ni mor frwd amdano. Hoffen ni, unwaith eto, ddiolch i Europol, Prifysgol Abertawe a Dr Lella Nouri am y cyfle gwych.

Inside Europol HQ