'Flip the Streets’

Ar 20 Mai, cawson ni gyfle anhygoel i wirfoddoli ochr yn ochr ag aelodau ifanc Canolfan Gymunedol Trefansel i gael gwared ar graffiti llawn casineb (swasticas), a oedd wedi cael eu paentio y tu allan i'r adeilad, a rhoi murlun llachar a chadarnhaol yn eu lle.

Croesawodd y prosiect amrywiaeth eang o wirfoddolwyr a chyfranogwyr, gan gynnwys Heddlu De Cymru a Jane Carter, pennaeth PREVENT. Yn ogystal, tynnodd BBC Wales sylw at y prosiect ar ôl i newyddiadurwr ddod ar y diwrnod i recordio cyfweliadau a datblygiad y murlun.

Darparwyd y gwaith celf a'r deunyddiau gan Fresh Creative CIC. Creodd yr artist a oedd yn cynrychioli'r cwmni hwn argraff aruthrol ar y diwrnod, wrth iddo fod yn amyneddgar tuag at y bobl ifanc a oedd yn cymryd rhan yn y prosiect a'u hannog drwy ddangos sut i ddefnyddio'r paentiau chwistrellu'n ddiogel, yn ogystal â rhoi'r rhyddid iddyn nhw i gyfrannu at y dyluniadau. Cafodd ei ymdrechion drwy gydol y dydd eu gwerthfawrogi'n fawr gan y rhai hynny a oedd yn cymryd rhan. Gwnaethon nhw ofyn yn rheolaidd am gymorth a chyngor, a ddarparwyd ganddo ef ei hun wrth iddo sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod nhw cael eu cynnwys a'u gwerthfawrogi.

Cafodd yr holl ddyluniadau eu creu gan y bobl ifanc sy'n mynd i glwb ieuenctid y ganolfan gymunedol. Drwy help Fresh Creative, gallen nhw deimlo eu bod nhw'n cael eu cynrychioli. Gwnaethon nhw ymfalchïo yn hyn ac yna cymeron nhw ran wrth ychwanegu lliw at eu creadigaethau. Mae'r prosiect yn unigryw a rhoddodd ef gyfle i sawl sector yn y gymuned gydweithredu wrth sefyll yn erbyn troseddau casineb, a chael effaith gadarnhaol ar eu hardal leol. Yn y bôn, dangosodd aelodau ifanc y ganolfan gymunedol hon y gallu i chwalu'r cynnig hwn ar gasineb, a chreu gweledigaethau gwell a mwy gobeithiol.

The project team

Y Nod

Cafodd prosiect ‘Flip the Streets’ ei drefnu gan Dr Lella Nouri a'i ariannu gan Race Council Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Nodau craidd y prosiect hwn oedd:

  • Cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd dileu delweddau ac iaith casineb o gymunedau.
  • Ysbrydoli pobl ifanc leol a chymunedau ehangach i deimlo bod eu barn a'u gwerthoedd yn cael eu cynrychioli.
  • Arddangos gwrthwynebiad i iaith a throseddau casineb drwy alluogi aelodau'r ganolfan gymunedol i lunio gwaith celf a dyluniadau i orchuddio fandaliaeth.

Dyma brosiect a oedd yn ysbrydoliaeth i dystion, gan fod yr enw a'r sloganau a ddewiswyd ar gyfer y murlun i gyd yn deillio o aelodau'r ganolfan gymunedol. Cafodd y prosiect ei werthfawrogi'n helaeth gan y ganolfan gymunedol, a roddodd groeso gwresog i'r gwirfoddolwyr ac a ddangosodd werthfawrogiad mawr o'r ymdrechion a wnaed gan Dr Lella Nouri, drwy greu gwaith celf a phaentiadau i ddiolch iddi am ei chymorth a'i hanogaeth wrth droi casineb yn obaith.

Rhoddodd y prosiect hwn gyfle i gyflwyno neges bwerus i'r rhai hynny sy'n ymdrechu i darfu ar heddwch cymunedau lleol ac anfon negeseuon niweidiol, drwy ddisodli eu neges â'r datganiad ‘ni fydd casineb yn fuddugol’. Dangosodd yr ‘heddlu heddwch’ fel y'i mabwysiadwyd gan yr artistiaid ifanc a fu'n bresennol ddydd Sadwrn fod gobaith o gryfhau’r ymgyrch yn erbyn agweddau hiliol a throseddau casineb sydd i’w gweld yn eang ar draws cyfryngau newyddion.

An image of graffiti in the shape of popcorn

Ni fydd casineb yn fuddugol.

Un o brif amcanion y diwrnod oedd ysbrydoli plant i deimlo y gallan nhw leisio eu barn am hiliaeth ac iaith casineb a meithrin eu dealltwriaeth o'r materion hyn.

Er bod oedran yr aelodau'n amrywio o 7 tan 14 oed, roedd gan yr holl aelodau ddealltwriaeth glir ac aeddfed o bwysigrwydd cydraddoldeb a derbyn aelodau eraill o'n cymunedau, ni waeth am eu hymddangosiad na'u cefndir. Roedd yr aelodau hyn i gyd yn awyddus i drafod yr angen i gefnogi ei gilydd, a mynegi eu rhwystredigaeth tuag at y fandaliaeth a wnaed i'r ganolfan gymunedol. 

Drwy gydol y dydd, cafodd llawer o'r gwirfoddolwyr allanol o'r heddlu, PREVENT a ni ein hunain o Brifysgol Abertawe y cyfle i drafod y materion a'r safbwyntiau hyn ymhellach â'r bobl ifanc.

Drwy gydol y trafodaethau hyn, gwnaethon nhw ddangos eu cryfder wrth wrthsefyll hiliaeth a chasineb, yn ogystal â gwerthfawrogiad am brosiect ‘Flip the Streets’ a'i allu i atgyfnerthu cadernid cymunedol ynghylch y materion hyn. 

Yn gyffredinol, gwnaeth y plant fwynhau'r prosiect yn fawr ac roedden nhw'n ymroddedig i ddod â'u gwaith celf yn fyw drwy benderfynu ar eu hoff liwiau a sicrhau iddo gael ei gwblhau. Rhoddwyd y cyfle i wirfoddolwyr allanol gymryd rhan yn y gwaith chwistrellu, a oedd yn fêl ar fysedd aelodau o Heddlu De Cymru yn ogystal â Dr Lella Nouri ei hun.

Roedd amrywiaeth fawr o waith celf ar draws y murlun cyfan, gan gynnwys pethau megis hwyaid, blychau popgorn, colomennod a phobl. Cawson nhw i gyd eu dylunio'n ystyriol gan aelodau ifanc y ganolfan gymunedol ac roedd ystyr arbennig iddyn nhw.

Pan ofynnwyd iddyn nhw am ystyr delweddau penodol a'r penderfyniadau yn eu cylch, darparodd pob unigolyn resymeg glir. Un enghraifft o hyn oedd yr artist ifanc a ddarluniodd y blwch popgorn. Roedd yr artist yn credu ei fod yn gyfraniad da at y murlun gan fod pawb yn hoffi popgorn ac na fyddai neb yn grac wrth ei weld. Roedd yn gobeithio y byddai pawb wrth ei fodd o'i weld.

Sicrhaodd yr artist ifanc fod ei ddyluniad wedi'i gwblhau a bu'n gweithio ar y paentiad a sut i gyfleu ei weledigaeth drwy'r dydd. Mae hyn yn dangos, i'r dim, empathi ac ystyriaeth yr aelodau ifanc hyn wrth sicrhau bod pawb yn teimlo ei fod yn cael ei gynnwys a'i fod yn hapus gyda'i ddyluniadau a'i werthoedd.

Gwnaeth y prosiect hwn ein galluogi i weld pwysigrwydd cynnwys ac annog aelodau iau ein cymunedau ac mae hyn yn cryfhau'r gobaith o ddylanwadu'n gadarnhaol ar eu dealltwriaeth o hiliaeth a throseddau casineb a'u barn am y rhain.

Er mwyn gweithio'n llwyddiannus i greu cymdeithas fwy croesawgar a chynhwysol, mae angen llywio dealltwriaeth pobl ifanc o bwysigrwydd caredigrwydd ac anogaeth. Cafodd hyn ei ddangos yn glir yn y prosiect hwn, yn ogystal â'i effaith wrth i'r holl aelodau sicrhau bod eu cymheiriaid yn cael eu hannog a'u gweld drwy gydweithio i drawsnewid lle sy'n bwysig iddyn nhw ac sy'n eu galluogi i deimlo eu bod yn weladwy.

Gobaith ar gyfer y dyfodol

Mae'r prosiect hwn yn dangos bod gobaith amlwg ar gyfer y dyfodol o ran gwrthsefyll troseddau casineb hiliol yn y gymuned, ac effaith gadarnhaol y gwaith hwn ar y rhai hynny sy'n cyfrannu ato. 

Fel myfyrwyr MA Seiberdroseddu a Therfysgaeth, sydd ar fin dechrau gyrfaoedd yn y maes hwn, gwnaeth y prosiect feithrin dealltwriaeth werthfawr o safbwyntiau pobl ifanc leol ynghylch y materion pwysig hyn a'r angen am ragor o brosiectau tebyg. Mae prosiectau fel yr un hwn yn dadlau bod angen darparu cyfrwng cadarnhaol sy'n galluogi unigolion i'w mynegi eu hunain yn greadigol yn ogystal â chyflwyno neges bwysig.

Members of the youth club

Gobeithio y gall y digwyddiad hwn baratoi'r ffordd i fabwysiadu ‘Flip the Streets’ yn ehangach a rhoi cyfle i gymunedau eraill ymuno â'r ‘heddlu heddwch’, gan sicrhau amgylchedd mwy croesawgar a braf. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld datblygiad prosiectau tebyg i'r un hwn ar draws Abertawe ac o bosib dde Cymru, a'r agwedd gadarnhaol rydyn ni'n disgwyl iddyn nhw ei darparu.

Unwaith eto, rhaid diolch i Dr Lella Nouri, Race Council Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru am y prosiect llawn ysbrydoliaeth hwn ac am y cyfle i gymryd rhan ynddo. Rhaid diolch hefyd i Jane Carter, pennaeth PREVENT, ac aelodau o Heddlu De Cymru am fod yn bresennol. Hoffen ni hefyd ddiolch yn arbennig i Ganolfan Gymunedol Trefansel, yn benodol ei gwirfoddolwyr ac aelodau o'r clwb ieuenctid, am ganiatáu i ni fod yn rhan o'r prosiect hwn ac am ein derbyn ni.