Yn ddiweddar, rhodd Ceri Robbins, Technegydd Sgiliau Clinigol yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, help llaw i gynorthwyo trawsnewid Labordy Sgiliau Clinigol yn Ysbyty'r Tywysog Philip, yn ystafell newid i ddynion ei defnyddio yn ystod argyfwng COVID-19.

Am bum mlynedd, gweithiodd Ceri yn Ysbyty’r Tywysog Philip fel Technegydd Sgiliau Clinigol yn y tîm Addysg Feddygol, cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe yn ddiweddar. A gan fod gan Ceri ddealltwriaeth a phrofiad trylwyr o ddatgymalu’r holl offer a ddefnyddir yn y Labordy Sgiliau Clinigol, cynigodd ei chymorth i baratoi’r ystafell yn gyflym.

Helpodd Ceri i ddatgymalu a storio offer fel breichiau tynnu gwaed, ABGs, a modelau tynnu hylif madruddyn y cefn, i enwi ond ychydig o ddarnau o offer.

Adnabyddodd Ceri hefyd pa eitemau o offer a allai fod yn ddefnyddiol ar wardiau, fel ffedogau, menig a biniau deunydd miniog, ac atgoffodd y staff am yr offer yr oedd ei thîm wedi'i brynu eisoes - megis monitorau pwysedd gwaed a thermomedrau tympanig.
Gwahanu’r ysbyty i fannau sy’n trin cleifion â COVID-19 sydd wedi eu cadarnhau, a elwir yr ardal ‘goch’, a mannau i gleifion nad ydynt wedi’u heintio fel nad oes croesiad rhyngddynt fel staff.

Meddai Ceri Robbins:

“Pleser oedd gennyf helpu fy nghyn-gydweithwyr yn y Tywysog Philip. Mae angen i bob un ohonom gamu i fyny a gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r GIG ar yr adeg hon. Roeddwn yn fwy na pharod i'w helpu yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng.”

Mae Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yn wirioneddol falch o'r ymdrechion Ceri er mwyn cefnogi'r frwydr yn erbyn COVID-19.

Rhannu'r stori