Peirianneg Fecanyddol, BEng (Anrh) / MEng (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Mechanical engineering students

Trosolwg o'r Cwrs

Mae peirianwyr mecanyddol yn trawsnewid syniadau arloesol yn ddyfeisiadau sy'n torri tir newydd. Mae'r ddisgyblaeth yn helpu i ddyfeisio, dylunio a chynhyrchu llawer o'r peiriannau a ddefnyddiwn yn feunyddiol.

Mae ein cwrs gradd Peirianneg Fecanyddol yn eich paratoi ar gyfer gyrfa sy'n llawn boddhad mewn amrywiaeth o sectorau peirianneg.

Byddwch yn datblygu galluoedd dadansoddi wrth gael profiad ymarferol o gyfarpar arbenigol uwch, gan feithrin sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer gweithio yn y diwydiant. 

Pam Peirianneg Fecanyddol yn Abertawe?

  • 14eg yn y DU (The Guardian University Guide 2026)
  • 20fed Yn U Du Peirianneg Fecanyddol (Daily Mail University Guide 2026)
  • 131 yn y byd (Peirianneg Fecanyddol, Awyrofod a Gweithgynhyrchu) (QS World University Rankings 2025)
  • 19fed yn y DU am bositifrwydd cyffredinol (NSS 2025)*
  • Mae 96% o raddedigion Peirianneg Fecanyddol yn mewn gwaith ac/neu astudio, neu'n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2025)

* Yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol wrth ateb cwestiwn 1 - 26 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025 , o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Eich Profiad Peirianneg Fecanyddol

Byddwch yn gweithio'n agos â'n cyfleusterau o'r radd flaenaf drwy gydol eich amser yn Abertawe.

Ymhlith y rhain mae labordy mecaneg dynameg, labordy hylifau a'n hystafell profi injan JetCat P120. Mae gennym hefyd unedau sydd ar flaen y gad ym maes gweithgynhyrchu digidol a roboteg.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi dreulio BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT (UCAS H305) yn y DU neu dramor, gan roi profiad gwerthfawr yn y gweithle yn ogystal â chyflog sydd ar hyn o bryd dros £15,000 ar gyfartaledd. Darperir cymorth ac arweiniad I’ch helpu i sicrhau lleoliad.

Rydym hefyd yn cynnig cyfle i chi ASTUDIO DRAMOR (UCAS H308) mewn prifysgol bartner sy'n cyfoethogi'r radd, gan roi profiad diwylliannol ac ieithyddol gwerthfawr a all ehangu'ch gorwelion wrth drio am swydd.

Mae'r MEng yn radd integredig pedair blynedd o hyd. Mae'n mynd y tu hwnt i'r BEng, gan gynnig sgiliau technegol ac arweinyddiaeth uwch, lefel ddyfnach o arbenigo a llwybr uniongyrchol i achrediad proffesiynol.

Os wyt ti'n poeni am fodloni ein gofynion mynediad, beth am ystyried y radd BEng Peirianneg Fecanyddol gyda Blwyddyn Sylfaen. Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu'n dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer.

Cyfleoedd Cyflogaeth Peirianneg Fecanyddol

Mae graddedigion Peirianneg Fecanyddol yn cael eu rhoi ar ben y ffordd i gael amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa ysgogol. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol. 

  • Peiriannydd Modurol
  • Peiriannydd Mwyngloddio
  • Technegydd Gweithdy
  • Peiriannydd Dibynadwyedd
  • Peiriannydd Straen
  • Peiriannydd Mecatroneg

Mae graddau Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Abertawe wedi'u hachredu gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) a Sefydliad y Dylunwyr Peirianneg (IED). Hefyd, mae'r radd yn gam cyntaf ar y daith tuag at statws Peiriannydd Siartredig, sy'n uchel ei barch.

Cer ar daith dywys o amgylch ein cyfleusterau

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Peirianneg Fecanyddol, BEng (Anrh)

Peirianneg Fecanyddol, MEng (Anrh)

Peirianneg Fecanyddol gyda Blwyddyn Dramor, MEng (Anrh)

Peirianneg Fecanyddol gyda Blwyddyn Mewn Diwydiant, MEng (Anrh)

Peirianneg Fecanyddol gyda Blwyddyn Sylfaen, BEng (Anrh)

Peirianneg Fecanyddol gyda Blwyddyn Dramor, BEng (Anrh)

Peirianneg Fecanyddol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BEng (Anrh)