Peirianneg Sifil, BEng (Anrh) / MEng (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
civil engineering class

Trosolwg o'r Cwrs

Mae peirianwyr sifil yn rhan anhepgor o'r gwaith o ddylunio ein hamgylchedd adeiledig. O bontydd, twneli a systemau trafnidiaeth i adeiladau, amddiffynfeydd rhag llifogydd a systemau rheoli dŵr, mae eu gweithrediad yn hanfodol i gymdeithas fodern.

Mae'r cwrs gradd hwn yn rhoi sylfaen gadarn i chi ym maes dylunio a dadansoddi strwythurau peirianneg sifil.

Byddwch yn meithrin sgiliau datrys problemau cymhleth a'r gallu i fraslunio a modelu datrysiadau peirianneg ac yn dod yn gyfforddus wrth baratoi adroddiadau technegol.

Wrth i chi fynd yn eich blaen drwy'r cwrs, bydd y galluoedd dadansoddol y byddwch yn eu datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar o'r radd flaenaf, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth mewn diwydiant peirianneg sifil.

Pam Peirianneg Sifil yn Abertawe?

  • 10fed Yn U Du Peirianneg Sifil (Daily Mail University Guide 2025)
  • Un o’r 201-275 o Brifysgolion Gorau yn y Byd ar gyfer Peirianneg - Sifil a Strwythurol (QS World University Rankings 2025)
  • Mae 95% o raddedigion Peirianneg Awyrofod yn mewn gwaith ac/neu astudio, neu'n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2025)

Eich Profiad Peirianneg Sifil

Drwy astudio gradd fodern sydd â chysylltiadau agos â'r diwydiant sy'n datblygu'n gyflym, byddwch yn dysgu am arferion dylunio presennol a'r safonau peirianneg diweddaraf.

Byddwch yn cael budd o weithio â chyfleusterau soffistigedig gan gynnwys labordai o'r radd flaenaf ar gyfer addysgu strwythurau a phrofi deunyddiau.

Mae ein labordy hylifau yn cynnwys cafn arbrofi pum metr o hyd a labordy geomecaneg. Mae'n bosibl y byddwch hefyd yn defnyddio ein camerâu cyflym soffistigedig ar gyfer dadansoddi straen a delweddu 3D.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi dreulio BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT (UCAS H202) yn y DU neu dramor, gan roi profiad gwerthfawr yn y gweithle yn ogystal â chyflog sydd ar hyn o bryd dros £15,000 ar gyfartaledd. Darperir cymorth ac arweiniad I’ch helpu i sicrhau lleoliad.

Rydym hefyd yn cynnig cyfle i chi ASTUDIO DRAMOR (UCAS H206) mewn prifysgol bartner sy'n cyfoethogi'r radd, gan roi profiad diwylliannol ac ieithyddol gwerthfawr a all ehangu'ch gorwelion wrth drio am swydd.

Mae'r MEng yn radd integredig pedair blynedd o hyd. Mae'n mynd y tu hwnt i'r BEng, gan gynnig sgiliau technegol ac arweinyddiaeth uwch, lefel ddyfnach o arbenigo a llwybr uniongyrchol i achrediad proffesiynol.

Os wyt ti'n poeni am fodloni ein gofynion mynediad, beth am ystyried y radd BEng Peirianneg Sifil gyda Blwyddyn Sylfaen. Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu'n dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer.

Cyfleoedd Cyflogaeth Peirianneg Sifil

Graddiodd Hannah Keating o Brifysgol Abertawe gyda gradd MEng mewn Peirianneg Sifil ac ymunodd â Laing O’Rourke fel Peiriannydd Safle fel rhan o’u Rhaglen Raddedig.

"...Wnes i ddim cyrraedd lle’r ydw i heddiw heb gefnogaeth fy nheulu, fy ffrindiau, fy narlithwyr a’m hathrawon. Ches i ddim problemau wrth gael mynediad at faes sy’n cynnwys llawer iawn o ddynion ac mae hyn yn bennaf oherwydd yr anogaeth a gefais i gan y bobl sy’n agos ataf. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ymateb yn yr un modd a helpu i ysbrydoli peirianwyr ifanc drwy rannu fy stori."

Mae graddedigion BEng Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe yn cael eu rhoi ar ben y ffordd i gael amrywiaeth o gyfleoedd ysgogol yn y dyfodol. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol.

  • Syrfëwr Rheoli Adeiladau
  • Peiriannydd Strwythurol
  • Cynllunydd Tref
  • Peiriannydd Gwasanaethau Adeiladu
  • Daearegydd Peirianyddol
  • Ymgynghorydd Amgylcheddol
  • Syrfëwr Meintiau

Daniel Burrell - Rheolwr Safle, J. Murphy & Sons

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cer ar daith dywys o amgylch ein cyfleusterau

Peirianneg Sifil, BEng (Anrh)

Peirianneg Sifil, MEng (Anrh)

Peirianneg Sifil gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, MEng (Anrh)

Peirianneg Sifil gyda Blwyddyn Sylfaen, BEng (Anrh)

Peirianneg Sifil gyda Blwyddyn Dramor, BEng (Anrh)

Peirianneg Sifil gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BEng (Anrh)