Trosolwg o'r Cwrs
Yn Abertawe, byddwch chi'n dysgu codio a llawer mwy. Byddwn yn eich grymuso i greu ac arloesi er mwyn datrys problemau byd go iawn. O'r diwrnod cyntaf, byddwch chi'n adeiladu meddalwedd, yn archwilio technolegau newydd ac yn datblygu'r sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Byddwch chi'n ymchwilio'n fanwl i feysydd y mae galw mawr amdanynt, megis deallusrwydd artiffisial (AI), seiberddiogelwch, gwyddor data, peirianneg meddalwedd a datblygu apiau symudol. Nid ydym yn rhestru offer ac ieithoedd penodol yma, oherwydd ein bod yn esblygu'n barhaus i fodloni gofynion y diwydiant pan fyddwch chi'n graddio.
Mae ein cwricwlwm yn cael ei lywio gan fewnbwn gan fyd diwydiant a'i addysgu gan arbenigwyr sy'n gweithio ar flaen y gad. O ddatblygwyr gemau a enwebwyd am BAFTA, i arbenigwyr seiberddiogelwch o fri rhyngwladol ac ymchwilwyr sy'n cydweithredu ag Airbus, Microsoft, HSBC a Siemens - mae eich darlithwyr yn rhagori mewn damcaniaeth ac yn gwneud gwahaniaeth yn y byd go iawn. Byddwch yn dysgu mewn labordai â’r cyfarpar diweddaraf, yn cydweithio â'ch cyd-fyfyrwyr ac yn arddangos eich gwaith yn y gynhadledd Cyfrifiadureg ac i gyflogwyr yn ein Ffair Brosiectau flynyddol.
P’un a oes gennych ddiddordeb mewn adeiladu systemau ar sail y cwmwl, dylunio apiau hygyrch, archwilio technolegau'r Rhyngrwyd Pethau (IoT) neu ddatblygu technolegau nad ydynt yn bodoli eto, byddwch yn graddio gyda phortffolio sy'n arddangos eich sgiliau - ac yn rhoi'r hyder i chi eu defnyddio mewn lleoliad byd go iawn.