Mathemateg, BSc (Anrh) / MMath (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Image

Trosolwg o'r Cwrs

Os ydych chi'n dwlu ar harddwch, manwl gywirdeb, cymhlethdod a symlrwydd mathemateg, ac yn hoffi cael eich herio, yna y radd Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe yw'r cwrs i chi.

Mae Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe yn radd uchel ei pharch sy'n denu myfyrwyr o bedwar ban byd. Bydd eich dysgu'n cael ei lywio gan academyddion llawn ysbrydoliaeth sy'n adnabyddus yn rhyngwladol sy'n meddu ar arbenigedd mewn ystod o bynciau mewn mathemateg gymhwysol a phur.

Pam Mathemateg yn Abertawe?

Mae ein Hadran Mathemateg drws nesaf i lan môr hyfryd Bae Abertawe ac yn rhan o'r Ffowndri Gyfrifiadol ar ein Campws y Bae, sy'n rhoi mynediad i fyfyrwyr i fannau astudio ac addysgu pwrpasol a ddyluniwyd gan fathemategwyr ac ar eu cyfer, yn ogystal â chynnwys llyfrgell adnoddau'r adran ar gyfer astudio ac ymchwil.

  • 13eg yn y DU (The Guardian University Guide 2026)
  • Ymysg y 201-250 o raglenni gorau o'i bath yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025)
  • 20fed yn y DU am Agwedd Gadarnhaol Gyffredinol (NSS 2025)*
    *Yn seiliedig ar y sgôr agwedd gadarnhaol gyffredinol ar gyfer cwestiynau 1 i 26 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025 o’i gymharu â’r prifysgolion yn y Times Good University Guide.

Byddwch yn meistroli syniadau a rhesymeg mathemateg a'u cymwysiadau ac yn caffael sgiliau trosglwyddadwy dymunol dros ben a fydd yn eich rhoi ben ac ysgwyddau uwchben eraill yn y farchnad gyflogaeth.

Eich Profiad Mathemateg

Mae ein staff yn arbenigwyr yn eu maes mathemateg ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu cydnabod yn Gymrawd neu’n Uwch-gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Caiff eich dysgu ei lywio gan academyddion llawn ysbrydoliaeth sy'n adnabyddus yn rhyngwladol sy’n meddu ar arbenigedd mewn ystod o bynciau mewn mathemateg gymhwysol a phur.

Yn ein Hadran Mathemateg, rydym yn meithrin cymuned drwy gymorth sydd wedi'i dargedu a chreu cysylltiadau cymdeithasol. Mae cymdeithas myfyrwyr mathemateg weithgar (SUMSOC), sy'n trefnu digwyddiadau rheolaidd ar gyfer staff a myfyrwyr, mae hyn yn annog synergedd rhwng grwpiau. 

Rydym hefyd yn hwyluso ymdeimlad o gymuned a pherthyn drwy drefnu digwyddiadau cyflogadwyedd rheolaidd, lle bydd siaradwyr allanol yn dod i siarad â chi yn ein Hystafell Ddarllen.  Rydym yn annog y gweithgareddau cyfoethogi hyn i sicrhau eich bod yn datblygu rhwydweithiau proffesiynol a chyfeillgarwch, gan greu amgylchedd cefnogol ymhell cyn i chi raddio. 

Mae'r rhaglen hon hefyd yn cynnwys y cyfle i ymgymryd â Blwyddyn Dramor mewn lleoliadau fel UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapore, gan gyfoethogi eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Mae'r rhaglen hon ar gael hefyd fel MMath 4 blynedd, sef gradd israddedig uwch, gan ychwanegu blwyddyn sy'n canolbwyntio ar ymchwil at eich gradd. Mae ein rhaglen MMath yn arwain at gymhwyster meistr, yn ogystal â'ch gradd israddedig, gan roi i chi hyfforddiant gwyddonol gan arbenigwyr a llwybr at amrywiaeth o yrfaoedd arbenigol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Mathemateg

Bydd graddedigion mathemateg fel arfer yn ennill cyflogau 50% yn uwch na'r cyfartaledd i raddedigion. 

Mae cyrchfannau cyffrous ar gyfer graddedigion yn cynnwys: 

  • Addysgu
  • Sector Actiwaraidd - yn arbennig ar gyfer myfyrwyr sy'n dewis y cyfuniadau gofynnol o fodiwlau dewisol i fod yn gymwys am eithriadau posib yr IFoA.
  • Y Sector Bancio a Chyllid - er enghraifft, cyfrifyddiaeth yn y sector cyhoeddus a phreifat, y diwydiant yswiriant a bancio yn y ddinas
  • Gyrfaoedd mewn Ystadegau - mae hyn yn cynnwys gyrfaoedd dadansoddi data yn y sector cyhoeddus a phreifat
  • Rhaglennu - rhaglennu cyfrifiadurol cyffredinol a rhaglennu ystadegol
  • Astudiaethau pellach - mae ein rhaglenni gradd yn darparu sylfaen fathemategol gref i astudio am radd PhD

Yn ddiweddar mae ein graddedigion wedi dod o hyd i swyddi mewn sefydliadau gan gynnwys AXA, British Airways, Deutsche Bank, Shell Research, awdurdodau iechyd a llywodraeth leol.

Mae gradd Mathemateg yn radd fodern, hygyrch a chynhwysol sy'n sicrhau bod gennych chi'r sgiliau amrywiol a'r hyder mae cyflogwyr yn galw amdanynt heddiw.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Mathemateg, BSc (Anrh)

Mathemateg, MMath (Anrh)

Mathemateg gyda Blwyddyn Dramor, MMath (Anrh)

Mathemateg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, MMath (Anrh)

Mathemateg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Mathemateg gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Mathemateg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)