Mathemateg a Gwyddor Chwaraeon, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
People doing press ups

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein gradd BSc gyfunol dros dair blynedd yn ymdrin â sylfaen eang o ddamcaniaeth draddodiadol a chyfoes yn y ddwy ddisgyblaeth, ac mae wedi'i chynllunio i fod yn flaengar ac yn berthnasol i'r diwydiant ehangach. 

Mae'r radd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi'i gwreiddio i'r un graddau yn hanes dynoliaeth a'r byd cyfoes. Mae'n archwilio sut mae'r corff dynol yn perfformio o dan lefelau gwahanol o bwysau ac mae'n ymdrin â meysydd eang o gyfranogiad ehangach mewn chwaraeon, gan gynnwys anatomeg a maetheg. 

Mae mathemateg yn cynnwys manwl gywirdeb, cymhlethdod a symlrwydd cain; mae'r radd hon yn eich galluogi i deilwra eich astudiaethau drwy ddewis rhwng dau lwybr cyffrous: Modelu Mathemategol neu Ystadegau, gan eich galluogi i astudio'r themâu sy'n eich ysbrydoli fwyaf.

Pam Mathemateg a Gwyddor Chwaraeon yn Abertawe?

  • 10fed yn y DU am Ragolygon Graddedigion (Times Good University Guide 2026)
  • 5ed yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)
  • Rhwng 201 a 250 ar y rhestr o'r rhaglenni gorau o'u bath yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025)
  • Mae Mathemateg yn 20fed yn y DU am Agwedd Gadarnhaol Gyffredinol (NSS 2025)* 

*Yn seiliedig ar y sgôr agwedd gadarnhaol gyffredinol ar gyfer cwestiynau 1 i 26 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025 o’i gymharu â’r prifysgolion yn y Times Good University Guide.

Byddwch yn cael eich addysgu gan academyddion hyddysg ac ymarferwyr proffesiynol gwybodus o'r diwydiant sy'n arbenigwyr a gydnabyddir yn eu meysydd, ac mae llawer ohonynt yn Gymrodorion neu'n Gymrodorion Uwch o'r Academi Addysg Uwch. Mae eu doethineb yn creu amgylchedd dysgu sy'n cyfuno hyfforddiant mathemategol trylwyr â chymwysiadau busnes ymarferol.

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn elwa o gymorth wedi'i bersonoli drwy diwtorialau mewn grwpiau bach a chymuned ôl-raddedig weithgar a chroesawgar. Mae cynrychiolwyr myfyrwyr etholedig yn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed, ac mae Cymdeithas Fathemateg Prifysgol Abertawe'n dod â myfyrwyr a staff ynghyd drwy ddigwyddiadau academaidd a chymdeithasol rheolaidd, gan eich helpu i deimlo'n rhan o adran gydweithredol a chyfeillgar o'r diwrnod cyntaf.

Addysgir y rhaglen ar safle hardd Campws y Bae, gan roi i chi gyfle i elwa o gyfleusterau addysgu modern a lleoliad bywiog ar yr arfordir, sy'n gwneud Abertawe'n lle ysbrydoledig i fyw ac astudio.

Eich Profiad Mathemateg a Gwyddor Chwaraeon

Byddwch yn cael cyfleoedd i weithio yn ein Labordy Biomecaneg arloesol, sy'n gartref i system dadansoddi symudiad uwch, gan eich galluogi i archwilio symudiad y corff dynol mewn manylder eithriadol. Bydd eich dysgu hefyd yn mynd â chi i'n Labordy Ffisioleg Ymarfer Corff, lle byddwch yn gweithio gyda chyfarpar arbenigol, gan gynnwys ergomedrau ymarfer corff, systemau profi gweithrediad yr ysgyfaint, offer dadansoddi gwaed a thechnoleg asesu gweithrediad cyhyrau.

Ochr yn ochr â'r profiad ymarferol hwn, byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o resymeg fathemategol a'i chymwysiadau byd go iawn, gan feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanynt a rhoi mantais gref i chi yn y farchnad swyddi i raddedigion.

Byddwch hefyd yn elwa o gymorth wedi'i bersonoli o ansawdd uchel drwy diwtorialau grŵp bach, gan sicrhau eich bod yn cael eich tywys yn dda drwy eich datblygiad academaidd. Mae cynrychiolwyr myfyrwyr etholedig yn sicrhau bod llais pob myfyriwr yn cael ei glywed, gan gyfrannu at ymdeimlad cryf o gymuned yn yr adran. Mae Cymdeithas Fathemateg Prifysgol Abertawe (SUMSOC) yn dod â myfyrwyr a staff ynghyd drwy ddigwyddiadau cymdeithasol ac academaidd rheolaidd, gan eich helpu i feithrin cysylltiadau a theimlo'n rhan o ddiwylliant myfyrwyr bywiog.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio Blwyddyn Dramor mewn lleoliadau fel UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapore, gan gyfoethogi eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i gael profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Erbyn diwedd y radd, byddwch yn teimlo'n hyderus yn rhoi gwybodaeth ym meysydd mathemateg, rhaglennu a gwyddor chwaraeon ar waith mewn sefyllfaoedd byd go iawn, gan ddefnyddio sgiliau datrys problemau a dadansoddol cryf i lywio eich gwaith. Byddwch hefyd yn datblygu'r galluoedd mathemategol a chyfrifiadol sy'n angenrheidiol i gyfrannu'n ystyrlon, gan feithrin meddylfryd arloesol sy'n eich galluogi i ymdrin â phroblemau cymhleth mewn modd creadigol a dyfeisio atebion effeithlon drwy feddwl yn fathemategol a rhaglennu.

Cyfleoedd Cyflogaeth Mathemateg a Gwyddor Chwaraeon

Mae'r sgiliau byddwch yn eu datblygu drwy gydol y radd hon yn berthnasol yn uniongyrchol i amrywiaeth eang o yrfaoedd. Byddwch yn atgyfnerthu eich gallu i ddatrys problemau, eich rhesymu rhesymegol, eich gwybodaeth dechnegol, eich sgiliau rheoli prosiect a gwaith tîm, sydd i gyd yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr.

Mae cyrchfannau cyffrous ar gyfer graddedigion yn cynnwys:

  • Addysgu
  • Y Sector Bancio a Chyllid
  • Gyrfaoedd mewn Ystadegau
  • Rhaglennu
  • Astudiaethau pellach - mae ein rhaglenni gradd yn darparu sylfaen fathemategol gref i astudio am radd PhD mewn Mathemateg neu Beirianneg.

Mae galw mawr am raddedigion Mathemateg a gallant ennill cyflogau sydd 50% yn fwy na chyflogau graddedigion eraill, gan adlewyrchu gwerth eu harbenigedd dadansoddol a thechnegol. Yn ddiweddar mae ein graddedigion wedi dod o hyd i swyddi â chyflogau da mewn sefydliadau gan gynnwys AXA, British Airways, Deutsche Bank, Shell Research, awdurdodau iechyd a llywodraeth leol.

Mae gradd Mathemateg yn radd fodern, hygyrch a chynhwysol sy'n sicrhau bod gennych chi'r sgiliau amrywiol a'r hyder mae cyflogwyr yn galw amdanynt heddiw.

Yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei ddweud am Fathemateg yn Abertawe

Ewch ar daith o amgylch ein cyfleusterau

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Mathemateg a Gwyddor Chwaraeon, BSc (Anrh)

Mathemateg a Gwyddor Chwaraeon gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Mathemateg a Gwyddor Chwaraeon gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)