Mathemateg Gymhwysol, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Dr Gibin Powathil

Trosolwg o'r Cwrs

Mae mathemateg yn sail i'r holl wyddoniaeth, busnes a thechnoleg gyfoes, gan gymhwyso syniadau mathemateg bur yn greadigol. Mae ein gradd BSc tair blynedd mewn Mathemateg Gymhwysol yn rhaglen uchel ei pharch sy'n croesawu myfyrwyr o bob cwr o'r byd.

Drwy gydol eich astudiaethau byddwch yn ymdrin â'r cysyniadau mathemategol pwysicaf mewn algebra llinol a haniaethol, dadansoddi real a chymhleth, tebygolrwydd a hafaliadau differol, a'r ffyrdd y cânt eu cymhwyso i ddiwydiant gan gynnwys damcaniaeth gemau, marchnadoedd ariannol, modelu canser, systemau deinamig, mecaneg cwantwm, dysgu peirianyddol, gwyddor data, a mwy.

Bydd eich dysgu yn cael ei lywio gan academyddion llawn ysbrydoliaeth ac o fri rhyngwladol sydd ag arbenigedd mewn ystod o bynciau mewn mathemateg bur a chymhwysol, a byddwch yn astudio mewn mannau addysgu pwrpasol wedi'u cynllunio gan fathemategwyr ac ar eu cyfer.

Byddwch yn meistroli syniadau a rhesymeg mathemateg a'u cymwysiadau, â sgiliau dadansoddol cryf, rhesymu rhesymegol, trin data a meddwl meintiol, gan adeiladu set ddymunol iawn o briodoleddau graddedigion a fydd yn eich gosod ben ac ysgwyddau uwchlaw eraill yn y farchnad gyflogaeth.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig cyfle i chi astudio gan dreulio Blwyddyn Dramor a Blwyddyn mewn Diwydiant.

Pam Mathemateg Gymhwysol yn Abertawe?

Byddwch yn astudio mewn adran uchel ei pharch yn ein Ffowndri Gyfrifiadol y buddsoddwyd £32.5m ynddi, ar ein Campws y Bae arfordirol. Mae Mathemateg yn Abertawe yn y safleoedd canlynol yn y tablau cynghrair:

  • 13eg yn y DU (Guardian University Guide 2026)
  • Ymysg yr 20 uchaf yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2026)
  • Ymysg yr 20 Uchaf yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)
  • Ymysg y 201-250 gorau yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025) 

Eich Profiad Mathemateg Gymhwysol

Byddwch yn elwa o fannau dysgu ac addysgu pwrpasol, yn rhan o'r Ffowndri Gyfrifiadol o'r radd flaenaf y buddsoddwyd £32.5m ynddi, a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer mathemategwyr. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys Ystafell Ddarllen Mathemateg, hyb ar gyfer astudio a gwaith grŵp, llyfrgell adrannol o adnoddau ar gyfer dysgu ac ymchwil, a gofod rhwydweithio i fyfyrwyr gymdeithasu.

Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr yn eu meysydd, a byddwch yn cael cymorth personol drwy gydol eich astudiaethau, drwy diwtorialau mewn grwpiau bach a chynllun mentora cymheiriaid i'ch helpu wrth ddechrau eich cwrs.

Mae gan yr Adran Fathemateg gymdeithas fyfyrwyr weithgar, Cymdeithas Myfyrwyr Mathemateg Prifysgol Abertawe (SUMSOC), sy'n cynnal digwyddiadau cymdeithasol ac academaidd mynych i ddod â myfyrwyr a staff at ei gilydd.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio Blwyddyn Dramor, gan wella eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy, a Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, sy'n eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Cyfleoedd Cyflogaeth Mathemateg Gymhwysol

Ar ôl cwblhau eich gradd, gallwch fod yn hyderus o'ch rhagolygon gyrfa, gan fod galw mawr am fathemategwyr mewn ystod eang o ddiwydiannau a sectorau, gan gynnwys:

  • Data, dadansoddeg a thechnoleg
  • Cyllid, bancio a buddsoddi
  • Y llywodraeth, y sector cyhoeddus a'r Gwasanaeth Sifil
  • Addysg ac addysgu
  • Busnes, ymgynghori a gweithrediadau
  • Yswiriant a materion actiwaraidd 

Mae ein graddedigion wedi cael cyflogaeth mewn amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys Barnett Waddingham, Ocado Retail, British Airways, Deutsche Bank, awdurdodau iechyd a llywodraeth leol.

Yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei ddweud am Fathemateg yn Abertawe

Ewch ar daith o amgylch ein cyfleusterau

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Mathemateg Gymhwysol, BSc (Anrh)

Mathemateg Gymhwysol gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Mathemateg Gymhwysol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)