Trosolwg o'r Cwrs
Mae Peirianneg Fiofeddygol yn cymhwyso egwyddorion peirianneg i'r corff dynol, i fynd ar drywydd arddull uwch a phersonol o ofal iechyd yn y dyfodol. Mae cyfuno peirianneg â'r offeryniaeth a ddefnyddir mewn meddygaeth fodern yn addo creu technolegau newydd pwysig sy'n cyffwrdd ac yn ymestyn ein bywydau i gyd.
Mae ein gradd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa wobrwyol ar draws ystod o sectorau, gan weithio i ddylunio ac arloesi technolegau meddygol y dyfodol. Byddwch yn meithrin sgiliau peirianneg craidd wrth ddysgu am anatomeg, ffisioleg a chyfathrebu â chlinigwyr. Wrth i chi symud ymlaen, bydd eich galluoedd datblygol i ddadansoddi a datrys problemau yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddyfeisiau ac offerynnau meddygol diwydiannol, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i gyflogaeth yn y diwydiant ehangach.
Mae'r rhaglen yn cael ei hastudio fel gradd Baglor mewn Peirianneg (BEng) am 3 blynedd, neu radd Meistr Integredig mewn Peirianneg (MEng) am 4 blynedd sy'n bodloni'r gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig. Mae ein cyrsiau BEng ac MEng yn cynnwys opsiynau i astudio gyda Blwyddyn Dramor, Blwyddyn mewn Diwydiant a Blwyddyn Sylfaen.