Un o'r ffyrdd gorau o addasu at fywyd y Brifysgol yw ymdrochi ynddo, ac mae sawl ffordd o wneud hyn.
Bydd eich cyfadran yn trefnu digwyddiadau ymsefydlu drwy gydol yr wythnosau cyntaf a fydd yn rhoi cyfle i chi ddysgu rhagor am eich cwrs yn ogystal â chwrdd â'ch darlithwyr a'ch cymheiriaid. Ym mhob cyfadran, ceir swyddogion gwybodaeth myfyrwyr sy'n gallu rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol i chi ynghylch amrywiaeth eang o faterion bugeiliol megis ymgartrefu yn y Brifysgol a chael hi'n anodd cwrdd â ffrindiau newydd.
Mae gan Undeb y Myfyrwyr gynifer o gyfleoedd i chi fod yn rhan ohonynt. Mae ganddynt fwy na 140 o gymdeithasau i chi gwrdd â phobl o'r un meddylfryd a gwneud yr hyn rydych chi'n ei fwynhau neu roi cynnig ar rywbeth hollol newydd rydych chi wedi bod am ei wneud erioed.
Hefyd, gallech chi ystyried dod yn gynrychiolydd pwnc neu goleg, sefyll yn yr etholiad i fod yn swyddog rhan-amser myfyrwyr sy'n cymudo neu sefydlu cymdeithas myfyrwyr sy'n cymudo hyd yn oed. Mae eu Ffair y Glas sy'n cael ei chynnal yn ystod wythnos gyntaf y tymor ar y ddau gampws yn ffordd wych o ddysgu am hyn i gyd a llawer mwy. Edrychwch ar eu gwefan am ragor o fanylion am ddigwyddiadau fel hyn.
Mae Undeb y Myfyrwyr a Chwaraeon Abertawe yn trefnu mwy na 50 o glybiau chwaraeon i chi ymuno â nhw, ac mae llawer ohonynt yn cystadlu yn BUCS (Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain)! Maen nhw'n cynnig sesiynau rhagflas a threialon yn ystod yr wythnos gyntaf er mwyn i chi ddarganfod yr hyn rydych chi'n ei hoffi.
Bydd yr holl bethau hyn yn eich helpu i deimlo'n rhan o'r Brifysgol a byddan nhw o fudd i chi wrth i chi ddod yn fyfyriwr amryddawn. Cofiwch, bydd llawer o’ch cymheiriaid sydd wedi symud i'r ardal yn gwerthfawrogi eich gwybodaeth arbennig o'r lleoedd gorau i gael coffi, y traethau a'r lleoedd i fynd iddynt. Felly, byddwch yn falch a rhowch wybod iddyn nhw eich bod o'r ardal leol - mae'n destun siarad gwych!