Ni fydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sy'n symud i addysg uwch ac yn symud oddi cartref i fyw mewn llety i fyfyrwyr neu rentu preifat, yn profi unrhyw broblemau wrth sicrhau rhywle i fyw. Serch hynny, gall myfyrwyr sy'n chwilio am lety gael eu targedu gan dwyllwyr.

Mae'r sgamiau'n gweithio drwy gynnig gosod eiddo mewn ardaloedd deniadol islaw rhenti'r farchnad a gofyn am flaendal, neu mewn rhai achosion daliad llawn ymlaen llaw er mwyn sicrhau'r eiddo cyn i chi ymweld ag ef, neu i brofi bod gennych yr arian i rentu am y cyfnod dan sylw. Bydd darpar denantiaid yn cael eu darbwyllo i roi eu manylion cerdyn credyd, sieciau neu arian cyn gweld yr eiddo, ac yna dyw'r eiddo ddim yn bodoli. Yna ni chaiff taliadau eu dychwelyd ac ni all y myfyriwr gysylltu â'r "landlord" arfaethedig.

Diogelwch eich hun:

Gwiriwch fod yr eiddo ar Restr HMO Cofrestredig Cyngor Abertawe yma.

Dylai'r landlord hefyd fod wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru. Cynhaliwch wiriad eiddo yma.

  • Gofynnwch am dystiolaeth bod yr eiddo'n bodoli: Gofynnwch am gopïau o gytundebau tenantiaeth a thystysgrifau diogelwch megis Nwy, Trydan neu Drwydded HMO (Tai Amlfeddiannaeth).
  • Diogelwch eich blaendal: Pan gymerir blaendal, rhaid i'r arian gael ei dalu i gynllun blaendal tenantiaeth a gymeradwywyd gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol. Mae mwy o wybodaeth am y cynllun a hawliau'r tenant ar gael ar wefan yr Adran Gymunedau/Llywodraeth Leol.
  • Peidiwch ag anfon arian ymlaen llaw: Gwnewch yn siŵr bod y person a'r eiddo'n bodoli a bod y person yn rheoli'r eiddo. Mae rhoi blaendal yn rhywbeth arferol wrth rentu: nid yw rhoi arian ymlaen llaw i sicrhau ystafell yn arferol.
  • Byddwch ar eich gwyliadwriaeth os gofynnir i chi drosglwyddo arian drwy asiantau trosglwyddo arian megis Western Union neu Money Gram: Mae eu cyngor yn glir - defnyddiwch y dulliau hyn o drosglwyddo arian dim ond i anfon arian at bobl rydych yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt. Hefyd, peidiwch ag ymateb i sgamiau "Prawf o Arian" lle gofynnir i chi anfon arian at ffrind ac yna anfon manylion y trafodyn at y "landlord". Gall yr arian gael ei dynnu gan ddefnyddio prawf adnabod ffug ac mae'n galluogi'r sgamwyr i gael gafael ar yr arian.