BYW YN TRUE SWANSEA
Mae Prifysgol Abertawe'n gweithio mewn partneriaeth â true Student i gynnig llety premiwm o safon sydd â golygfeydd godidog dros afon Tawe.
Ceir ystafelloedd en suite mewn fflatiau o 5 neu 6 a rennir neu ystafelloedd stiwdio preifat sydd â chegin fach ac en suite moethus
- Mae'r holl ystafelloedd yn cynnwys: Gwely dwbl maint llawn | ystafell ymolchi en suite | teledu
- Mae’r cyfleusterau'n cynnwys: Sinema | Parth Gwyliau | Campfa UTime Fitness | Mannau cymdeithasol
- Cysylltiadau Trafnidiaeth Da: Ceir gwasanaethau bws uniongyrchol rheolaidd rhwng y ddau gampws; tua 30 munud o Gampws Parc Singleton a 15 munud o Gampws y Bae ar y bws.