Bydd angen i chi lunio cynnig ymchwil manwl, gan ddod â'ch syniadau at ei gilydd mewn ffurf gydlynol. Mae'r canllawiau ar gael yma.

Pan fyddwch wedi cwblhau'ch cynnig ymchwil ac wedi nodi dewis cyntaf ac ail o oruchwyliwr, gallwch gyflwyno’ch cais ar-lein, neu llwytho ffurflen gais i lawr i wneud cais drwy'r post.

Cynghorwn eich bod yn cysylltu â ni cyn cyflwyno'ch cais. Gallwn nodi goruchwylwyr priodol ac, os oes angen, gweithio gyda chi i fireinio'ch cynnig.

Am fwy o wybodaeth ar ein rhaglenni ymchwil ol-raddedig neu os ydych yn dymuno siarad gydag aelod perthnasol o staff academaidd yna cysylltwch gyda Mrs Maria Davis, teleffon +44(0) 1792 295309 neu e-bost Postgraduate Research Academy