Croeso gan Bennaeth ein Hysgol
Croeso gan yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.
Cyn i chi gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau Ôl-Raddedig Clinigol, beth am gofrestru i'n Diwrnod Agored Rhithwr?
Croeso gan yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.
Cyn i chi gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau Ôl-Raddedig Clinigol, beth am gofrestru i'n Diwrnod Agored Rhithwr?
Ni waeth a fyddwch yn penderfynu dilyn gradd ôl-raddedig a addysgir i ddilyn eich diddordebau, gwella'ch gyrfa neu gymryd cyfeiriad newydd, mae'n cyrsiau gwyddorau bywyd ni'n cyd-fynd â bywydau prysur gweithwyr proffesiynol. Rydym ni wedi dylunio ein cyrsiau ôl-raddedig a addysgir i'ch helpu i gymryd y camau nesaf yn eich gyrfa, neu fynd ymhellach gyda'ch astudiaethau academaidd. Mae'n fframwaith modiwlaidd yn eich galluogi i astudio'n amser llawn neu'n rhan-amser, ar-lein, ar y campws neu mewn modd cyfunedig.
Os ydych chi’n gweithio mewn rôl gofal iechyd sy’n cynnwys dadansoddi data iechyd, gallai’r radd MSc Gwyddor Data Iechyd hon roi mynediad i chi i un o’r meysydd sy’n tyfu gyflymaf yn y DU.
A ydych chi'n gweithio ym maes gofal iechyd ac yn dymuno cynyddu'ch gwybodaeth a'ch sgiliau mewn gwybodeg iechyd? Dyma un o'r meysydd sy'n tyfu gyflymaf yn y DU a gall ein gradd MSc Gwybodeg Iechyd wella eich rhagolygon gyrfa.
A ydych chi eisiau defnyddio eich gradd mewn bioleg, geneteg, biocemeg, fferylliaeth, peirianneg feddygol neu ffiseg? Gallwch wella'ch rhagolygon gyrfa drwy astudio MSc Nanofeddygaeth, gan ryngwynebu gyda meddygaeth glinigol, fferylleg, meddygaeth adfywiol a nano(geno)docsicoleg.
Os ydych chi'n fyfyriwr peirianneg neu'r gwyddorau ffisegol, bydd ein gradd MSc Ffiseg Ymbelydredd Meddygol yn rhoi'r gwybodaeth a'r ddealltwriaeth ddamcaniaethol o agweddau sylfaenol ar ddefnyddio ymbelydredd mewn meddygaeth i wella'ch rhagolygon gyrfa.
Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol gofal iechyd sydd eisoes yn gweithio yn y GIG, neu os ydych chi’n raddedig sydd am weithio mewn lleoliad clinigol, bydd y radd MSc Meddygaeth Genomeg hon yn gwella’ch rhagolygon gyrfa.
Edrychwch ar daith o 360o o'n campws a llety...