Cydweithiwch â ni yn ysbryd arloesi agored
Rydym yn gwneud mwy na hyfforddi meddygon yn unig, rydym yn mentro bod yn wahanol. Rydym yn gweithio mewn cyd-destun ymarfer clinigol, ymchwil, menter ac arloesi rhyngddisgyblaethol. Mae gan ein model unigryw botensial enfawr i gyflwyno economi gwybodaeth iechyd a gwyddor bywyd gynaliadwy.
Mae ein cymuned o glinigwyr, ymchwilwyr ac entrepreneuriaid o'r un meddylfryd yn cydweithredu i ddatrys heriau clinigol, gan symud syniadau ymchwil o gyfnod y cysyniad i fasnacheiddio.
Mae ein cangen Menter ac Arloesi'n cynnig mynediad i bedwar llawr o labordai a chyfleuster ymchwil clinigol. Rydym yn cynnig arbenigedd ym maes ymchwil biofeddygol, iechyd poblogaeth y cyhoedd, gwybodeg, teleiechyd, ymchwil gwasanaethau iechyd, nanodechnoleg a llawer mwy.
Rydym yn cynnig mynediad i:
- Ardal deor i ddatblygu ac i dyfu eich syniad busnes
- Eiddo Deallusol a chymorth busnes
- Cymorth ariannu a cheisiadau grant
- Arbenigedd ymchwil rhyngddisgyblaethol
- Cyfleusterau'r Brifysgol a'r Ysgol Feddygaeth