Mae Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi cydweithrediad ymchwil â’r cwmni synwyryddion a diagnosteg feddygol, Zimmer and Peacock, a allai ddenu swyddi i Abertawe.
Bydd y prosiect ymchwil tri mis yn datblygu gwaith trosglwyddo gwybodaeth ym maes llonyddu aptamerau ar gyfer datblygu synwyryddion a gynhyrchir drwy sgrin-brintio.
Bydd y gwaith hwn yn cynyddu'r dewis o synwyryddion oddi ar y silff at ddiben ymchwil a datblygu cychwynnol a gynigir gan Zimmer and Peacock i'r cymunedau gwyddonol.
Gallai cyflwyno synwyryddion newydd i linellau presennol ehangu argaeledd masnachol ac amrywiaeth y synwyryddion diagnostig ar y farchnad, gan leihau amseroedd ymchwil a datblygu. Gallai hyn arwain at gynnydd yn y synwyryddion diagnostig clinigol sydd ar gael ar gyfer amrywiaeth eang o glefydau, gan gynnwys sepsis.
Dywedodd Prif Swyddog Gwyddonol Zimmer and Peacock, Dr Martin Peacock:
“Mae Zimmer and Peacock wedi creu partneriaeth strategol â Phrifysgol Abertawe ac felly rydym ni wrth ein boddau i gydweithio ar y rhaglen hon, i ddatblygu galluoedd technegol Zimmer and Peacock a chreu swyddi yn Abertawe."
Bydd y cydweithrediad hwn yn helpu i sicrhau swyddi presennol yn Abertawe, wrth gefnogi gweithgarwch ehangu gweithrediadau presennol yng Nghymru, gan agor y drws i swyddi newydd posib yn yr ardal leol.
Dywedodd yr Athro Keith Lloyd, Deon Gweithredol a Dirprwy Is-ganghellor yng Nghyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe:
“Rydym ni wrth ein boddau i gyhoeddi'r bartneriaeth hon â Zimmer and Peacock.
“Mae'r prosiect hwn yn un o sawl un sy'n cynnwys y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd sy'n cefnogi twf swyddi yng Nghymru ac yn datblygu ei henw da fel hyb ar gyfer arloesedd yn y sector iechyd a gwyddorau bywyd."
Lleolir y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd yn Sefydliad y Gwyddorau Bywyd Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ar Gampws Singleton.
Mae'r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd yn rhan o raglen Cyflymu Cymru gyfan sy'n uno diwydiant, academia a gweithwyr proffesiynol iechyd yng Nghymru i droi syniadau arloesol yn atebion, yn gynnyrch ac yn wasanaethau newydd y gellir eu mabwysiadu ym maes iechyd a gofal.