Trothwyon genowenwynig
Cyflwyno’r cysyniad o lefelau “diogel” o gysylltiad â genowenwynau a sut mae hyn wedi bod o fudd i gleifion ac i’r diwydiant fferyllol
Mae gwaith o dan arweiniad Abertawe ar “drothwyon genowenwynig” wedi rhoi tawelwch meddwl i 25,000 o gleifion a gymerodd dabledi gwrthfeirysol (Viracept) wedi’u halogi â’r genowenwyn ethyl methanesuphonate (EMS). Roedd y gwaith hwn hefyd yn sail i newidiadau mewn canllawiau rheoleiddio ynghylch asesu cyffuriau o ran cysylltiad â lefel isel o genowenwynau. Genowenwynau yw’r term am gemegau (a chyfryngau ffisegol megis ymbelydredd) sy’n niweidio DNA. Mae niwed i DNA yn arwain at ganser felly, yn gyffredinol, nid yw cysylltiad â genowenwynau yn beth da.
Yn y gorffennol (cyn 2008), tybid bod genowenwyndra yn cynyddu yn unol â dos y cyffur, a gwrthodwyd â chyffuriau genowenwynig. Roedd hyn yn seiliedig ar yr egwyddor ragofalus gan nad oedd neb yn deall yn iawn beth oedd effeithiau dos isel. Cadarnhaodd ein hymchwil i gysylltiad â lefel isel o genowenwynau carsinogenig drothwyon genowenwynig – nid yw cysylltiad â lefel isel o genowenwynau yn peri risg sylweddol i DNA. Mae hyn bellach wedi’i gynnwys mewn canllawiau rheoleiddio byd-eang. Roedd achos Viracept (lle canfuwyd bod cyffur Roche wedi’i halogi â lefelau isel iawn o garsinogen genowenwynig cryf) yn profi’r dull trothwy hwn. Derbyniodd yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd (Gorffennaf 2008) nad oedd risg hirdymor i gleifion a oedd wedi derbyn tabledi halogedig, gan roi tawelwch meddwl i’r cleifion dan sylw ac arwain at newid sylfaenol mewn syniadau ynglŷn â chysylltiad â genowenwynau.
Y berthynas rhwng ymateb i ddos ar gyfer niwed/mwtaniad DNA (echelin y) a dos (echelin x). Mae’r llinell soled yn cynrychioli’r ymateb llinol i ddos y derbyniwyd yn gyffredinol ei fod yn bodoli, er ei fod yn seiliedig ar ddosau uchel heb unrhyw ddata dosau isel. Mae’r llinell doredig yn cynrychioli’r ymateb trothwy i ddos rydym wedi profi ei fod yn bodoli ar gyfer rhai cyfryngwyr sy’n niweidio DNA, drwy edrych yn benodol ar yr ardal dos isel.