Rydyn ni'n falch o gynnig profiad addysgol rhagorol, gan ddefnyddio'r ymagweddau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol, sydd wedi cael eu teilwra'n ofalus i gydweddu ag anghenion penodol eich cwrs. Addysgir ein cyrsiau wyneb yn wyneb, ar y campws, sy’n galluogi chi i ymgysylltu'n llawn â'ch darlithwyr a'ch cyd-fyfyrwyr.
Mae sesiynau sgiliau ymarferol, seminarau, a gweithdai yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb fel arfer, gan ganiatáu i chi weithio a chyflwyno mewn grŵp. Fodd bynnag, mae ein hymagwedd hefyd yn cynnwys defnyddio cymorth ar-lein i ategu ac atgyfnerthu addysgu wyneb yn wyneb traddodiadol.
Efallai y bydd dysgu ar-lein yn digwydd yn 'fyw' gan ddefnyddio meddalwedd fel Zoom, a fydd yn eich galluogi i ryngweithio â'r darlithydd a'ch cyfoedion ac i ofyn cwestiynau. Mae recordio darlithoedd yn cynnig mwy o hyblygrwydd o ran ail-edrych ar ddeunydd a gwella’ch dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae gan rai modiwlau adnoddau ychwanegol yn ein hamgylchedd dysgu rhithwir (Canvas), megis fideos, sleidiau a chwisiau sy'n galluogi astudiaeth hyblyg bellach.
Mae’r cwrs amser llawn wedi’i rannu ar draws y flwyddyn gyda thri modiwl yn cael eu cynnig ym mhob tymor academaidd (cyfanswm o chwe modiwl yn rhan un) a thraethawd hir dros yr haf (rhan dau). Bydd myfyrwyr yn astudio un modiwl gorfodol, ynghyd â dau fodiwl iaith a thri modiwl dewisol. Caiff y traethawd hir ei ysgrifennu ar bwnc ymchwil arbenigol o’ch dewis.
Bydd myfyrwyr rhan amser yn astudio un modiwl gorfodol, iaith a modiwl dewisol yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn ac yn ysgrifennu eu traethawd hir yn y drydedd flwyddyn.
Rhan allweddol o'r rhaglen yw'r cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu â sefydliadau treftadaeth allanol a phrosiectau staff ym maes treftadaeth a hanes cyhoeddus. Mae'r modiwlau yn cynnwys opsiynau mewn treftadaeth, hanes cyhoeddus, hanes yr henfyd, diwylliant yr hen Aifft, hanes, hunaniaethau Cymreig, y cyfryngau, theori amgueddfa, ymarfer archif/cyfathrebu, ymarfer amgueddfa a lleoliad gwaith.