Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi'n angerddol am gynaliadwyedd mewn busnes, a hoffech chi fod ar flaen y gad o ran arloesi ym maes cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol? Drwy astudio'r rhaglen hon, gallwch chi fod yn un o arweinwyr y dyfodol sy'n cynnig atebion i broblemau amgylcheddol dybryd byd busnes modern.
Mae'r rhaglen ym Mhrifysgol Abertawe wedi'i chynllunio i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn Cynaliadwyedd, Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, Rheoli Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd. Bydd yn galluogi myfyrwyr sy'n chwilio am rolau rheoli cyffredinol i dargedu cwmnïau cynaliadwy neu foesegol, yn ogystal â dangos sut bydd cwmni'n elwa ar eu gwybodaeth drwy ganolbwyntio ar y meysydd hyn.
Byddwch yn archwilio Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol a Moeseg yn ogystal â Chynaliadwyedd a Rheolaeth Amgylcheddol. Yn ogystal, byddwch yn dysgu am reolaeth mewn cymuned fyd-eang ryng-gysylltiedig yn ogystal â chysyniadau rheoli craidd megis rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli marchnata i roi sylfaen gadarn i chi mewn ystod o egwyddorion busnes deinamig.
Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI), sef yr unig gorff proffesiynol siartredig yn y DU sy'n ymwneud yn benodol â hyrwyddo'r safonau uchaf o ran rhagoriaeth rheoli ac arwain, ac mae ar gael i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym maes busnes neu reoli. Ar ôl cwblhau modiwlau wedi’u mapio perthnasol y radd MSc mewn Rheoli yn llwyddiannus, byddwch yn cymhwyso i gael tystysgrif lefel 7 y CMI mewn Rheoli ac Arwain Strategol.