Trosolwg o'r Cwrs
Hoffech chi ddatblygu'r sgiliau i reoli busnesau'n effeithiol trwy'r oes ddigidol newydd? Mae trawsnewid digidol wrthi'n newid yn gyflym yr amgylchedd busnes; o ddatblygu diogelwch seiber i foeseg ddigidol, mae rheolwyr busnes digidol yn dod yn fwyfwy hanfodol wrth sicrhau llwyddiant sefydliadau.
Mae'r economi ddigidol wedi creu llu o gyfleoedd newydd i fusnesau, gan gynnwys modelau busnes a dulliau cystadlu newydd mewn sectorau gwahanol o’r economi. Bydd y sgiliau y byddwch yn eu meithrin yn helpu sefydliadau i groesawu hyn ac i barhau i gystadlu tra hefyd yn eu helpu i ailystyried pob agwedd ar eu model busnes presennol a dod yn "ddigidol".
Bydd y cwrs gradd MSc mewn Rheoli (Busnes Digidol) ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi ffocws dwys i chi ar effaith Systemau Gwybodaeth o ran rheoli sefydliadau a’r heriau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â modelau busnes newydd, gan gynnwys pynciau megis Rheoli mewn byd digidol gan ddefnyddio systemau gwybodaeth, a Busnes Digidol.
Byddwch hefyd yn dysgu am reoli mewn cymuned fyd-eang gysylltiedig yn ogystal â chysyniadau rheoli craidd megis rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli marchnata er mwyn rhoi gwybodaeth gadarn ichi mewn ystod o egwyddorion busnes dynamig.
Wedi’i achredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), sef yr unig gorff proffesiynol siartredig yn y Deyrnas Unedig yn benodol ar gyfer hyrwyddo’r safonau uchaf mewn rhagoriaeth rheoli ac arweinyddiaeth, mae’r cwrs ar agor i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym myd busnes neu reoli. Ar ôl gorffen y modiwlau a fapiwyd yn y cwrs gradd MSc mewn rheoli byddwch chi’n cymhwyso ar gyfer Tystysgrif mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth Strategol Lefel 7 y Sefydliad Rheolaeth Siartredig.