Adroddiad Cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg 2020-21
- Diogelwch ar y Campws
- Arweinyddiaeth y Brifysgol
- Llywodraethu'r Brifysgol
- Cyllid
- Caffael
- Gwerthoedd
- Ein Cyfeiriad Strategol
- Gweledigaeth ac uchelgais
- Gwasanaethau Cyfreithiol
- Cydymffurfiaeth
- Diogelu Data
- Cydymffurfiaeth Y Gymraeg
- Beth yw Safonau'r Gymraeg?
- Cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg
- Arfer gorau: cydymffurfiaeth
- Adroddiad Cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg 1 Awst 2019 - 31 Gorffennaf 2020
- Asesu sgiliau Cymraeg ar gyfer swyddi
- Adroddiad Cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg 2020-21
- Cynllun Gweithredu Safonau'r Gymraeg
- Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg ar gyfer 1 Awst 2021 - 31 Gorffennaf 2022
- Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg o 1 Awst 2022 i 31 Gorffennaf 2023
- Hawl i ddefnyddio'r Gymraeg
- Adborth ynglŷn â'r Gymraeg yn y Brifysgol
- Rhyddid Gwybodaeth
- Rheoli Cofnodion
- Rheoliadau Mewnfudo
- Gwasanaethau Arlwyo
- Cysylltu â ni
Paratowyd yn unol â gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
1. Cyflwyniad
Derbyniodd Prifysgol Abertawe ei hysbysiad cydymffurfio oddi wrth Gomisiynydd y Gymraeg ym mis Medi 2017, a amlinellodd ddyletswydd y Brifysgol i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg statudol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Cyhoeddir yr adroddiad hwn yn unol â Safonau 166, 172 a 178, ac mae'n rhoi sylw i'r cyfnod rhwng 1 Awst 2020 a 31 Gorffennaf 2021.
2. Strwythur adrodd ar y Gymraeg
Cadeirir Pwyllgor Strategaeth y Gymraeg gan yr Athro Elwen Evans CB, Dirprwy Is-Ganghellor a Deon Gweithredol Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Rôl y Pwyllgor yw datblygu a gweithredu strategaeth ar gyfer defnyddio’r Gymraeg a datblygu addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’r Pwyllgor yn ymgynnull unwaith bob tymor academaidd, ac yn adrodd i Senedd y Brifysgol. Mae Swyddogion Polisi’r Gymraeg yn mynychu’r cyfarfodydd er mwyn adrodd i’w aelodau ar faterion sy’n ymwneud â Safonau’r Gymraeg, yn enwedig y rhai hynny sy’n berthnasol i staff academaidd.
Rôl Swyddogion Polisi’r Gymraeg yn y Brifysgol yw hyrwyddo, hwyluso, cefnogi a monitro gweithrediad Safonau’r Gymraeg. Rhennir y rôl gan ddwy aelod rhan-amser o staff, sef Nia Besley ac Emily Hammett (yn cyfateb â 1.1 aelod o staff llawn amser). Cânt eu cynorthwyo ddau ddiwrnod yr wythnos gan Gynorthwyydd Cydymffurfiaeth, Lisa Hughes. Mae’r tair yn rhan o dîm Gwasanaethau Cyfreithiol a Chydymffurfiaeth y Brifysgol, sy’n rhan o Swyddfa’r Is-ganghellor.
Mae Academi Hywel Teifi (Cyfarwyddwr, Dr. Gwenno Ffrancon) yn arwain y gwaith o ddatblygu a chefnogi darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg y Brifysgol, gan gydweithio’n agos â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae tîm cyfieithu mewnol yn y Brifysgol, dan reolaeth Sarah Gray. Maen nhw’n darparu gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig a llafar. Mae’r tîm yn rhan o gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Academaidd.
Gwern Dafis yw Swyddog Materion Cymraeg llawn amser Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.
3. Cydymffurfio â’r Safonau Cyflenwi Gwasanaethau
Mae Swyddogion Polisi’r Gymraeg yn parhau i hyrwyddo, addysgu a monitro cydymffurfiaeth mewn amryw ffyrdd: dulliau e-gyfathrebu mewnol amrywiol, sesiynau sefydlu staff newydd (sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg), cymorthfeydd pwrpasol a hyfforddiant penodol. Gweithir hefyd gyda chorff y myfyrwyr i bwysleisio eu hawliau.
Er gwaethaf cyfyngiadau parhaus COVID-19, sicrhawyd bod myfyrwyr a’r cyhoedd yn dal i allu cyfathrebu gyda’r Brifysgol yn y Gymraeg, gan ddefnyddio dulliau amgen megis sgyrsio ar-lein lle bynnag y bo’n berthnasol.
Mae’r egwyddorion cyffredinol canlynol yn helpu i sicrhau cydymffurfiaeth â’r Safonau Cyflenwi Gwasanaethau (gan gyfeirio at y gweithgareddau perthnasol a restrir ym mharagraff 31 o Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017):
- Gofynnir am ddewis iaith a sgiliau Cymraeg myfyrwyr pan fyddant yn gwneud cais i astudio yn y Brifysgol, ac eto wrth gofrestru. Cofnodir hyn yn y system cofnod myfyrwyr ac mae i’w weld yn glir ar broffil pob myfyriwr gan unrhyw aelod staff sydd â mynediad i’r system honno. Gall myfyrwyr newid y wybodaeth drostyn nhw eu hunain unrhyw bryd.
- Cyfathrebir yn ddwyieithog wrth gysylltu â mwy nag un myfyriwr (ac eithrio cynnwys cwrs academaidd penodol, oni bai mai cwrs cyfrwng Cymraeg ydyw).
- Wrth gyfathrebu â myfyriwr unigol, bydd yr aelod staff yn gwirio’r dewis iaith ar gofnod y myfyriwr.
- Cyfathrebir yn ddwyieithog â’r cyhoedd, ac mae gwybodaeth ysgrifenedig, electronig, neu wybodaeth ar y wefan neu ar arwyddion, yn ddwyieithog, oni bai y gwyddys dewis iaith yr unigolyn neu’r grŵp o unigolion.
- Ymatebir yn y Gymraeg i unrhyw ohebiaeth neu gyfathrebu a dderbynnir yn y Gymraeg, heb oedi ychwanegol.
- Mae prif gyfrifon corfforaethol y cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog, yn ogystal â phrif gyfrif pob cyfadran neu uned gwasanaethau proffesiynol perthnasol.
- Hyrwyddir ymgyrch hawliau Cymraeg myfyrwyr, ‘Mae gen i hawl’, a grëwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, ond a addaswyd gan y Brifysgol, gydol y flwyddyn, ond yn arbennig ar adegau penodol o’r flwyddyn (e.e. yn ystod wythnos y glas, diwrnodau agored ac ati).
- Darperir gwasanaeth Cymraeg ar bob derbynfa berthnasol a restrir yn yr hysbysiad cydymffurfio, yn ogystal ag ar y prif switsfwrdd ac ar linell ffôn MyUniHub.
- Cynghorir pob derbynfa arall, a'r rhai hynny sy’n ateb galwadau i rifau ffôn adrannol, i nodi siaradwyr Cymraeg a fyddai’n gallu cynnig gwasanaeth Cymraeg yn ôl yr angen, neu os nad oes opsiynau eraill, i fod yn ymwybodol bod siaradwyr Cymraeg ar y prif switsfwrdd/prif dderbynfeydd, ar gyfer aelodau’r cyhoedd, neu yn MyUniHub (ffôn a derbynfa) ar gyfer myfyrwyr. Fel y nodwyd uchod, mae trefniadau derbyniol amgen mewn lle yn sgil pandemig COVID-19.
4. Cydymffurfio â’r Safonau Llunio Polisi
Mae pob polisi a strategaeth newydd yn destun prosesau Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb (“EqIA”). Mae adran ynglŷn â’r Gymraeg ar bob ffurflen EqIA. Mae astudiaethau achos wedi’u creu er mwyn cynorthwyo’r broses o ystyried yn llawn y goblygiadau o safbwynt y Gymraeg. Mae tîm Cydraddoldeb y Brifysgol yn cydweithio â Swyddogion Polisi’r Gymraeg i ddadansoddi ffurflenni EqIA drafft fel y gellir ymyrryd yn gynnar yn y broses o benderfynu, yn ôl yr angen. Mae Swyddogion Polisi’r Gymraeg yn cadw cofnod o’r asesiadau sydd wedi’u cwblhau.
5. Cydymffurfio â’r Safonau Gweithredu
Mae’r Brifysgol wedi datblygu polisi ar ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol at ddibenion hyrwyddo a hwyluso defnydd o’r Gymraeg.
Bydd pob cyflogai newydd sy’n nodi pan gynigir iddo yr hoffent gyfweliad cyfrwng Cymraeg, ac aelodau staff presennol sy’n datgan pan ofynnir iddynt mai’r Gymraeg yw eu dewis iaith, yn derbyn cytundeb cyflogaeth yn y Gymraeg, yn ogystal â gohebiaeth a gyfeirir ato’n unigol sy’n ymwneud a’u cyflogaeth.
Mae staff yn gallu nodi eu dewis iaith ar y system adnoddau dynol, ABW, a chaiff y cofnod hwn ei wirio wrth ohebu gyda staff.
Mae pob polisi adnoddau dynol perthnasol ar gael yn ddwyieithog ar y fewnrwyd.
6. Monitro cydymffurfiaeth
Mae gweithgareddau monitro tîm cydymffurfiaeth y Gymraeg yn cynnwys monitro’r cyfryngau cymdeithasol a dulliau cyfathrebu eraill yn fisol, dull hunan-fonitro flynyddol ar gyfer pob cyfadran ac adran gwasanaethau proffesiynol, a monitro corfforol ar hap ar draws y ddau gampws. Mae canlyniadau’r gweithgareddau hyn yn pennu sylfaen i waith ymgysylltu a mesurau ar gyfer gwella ym mhob maes.
Yn anffodus ni fu’n bosibl monitro’n gorfforol ar hap yn ystod 2020-21 yn sgil gorchymyn Llywodraeth Cymru i weithio gartref lle bynnag y bo’n bosibl.
7. Cwynion
Ni chafwyd cwynion swyddogol yn ystod 2020-2021.
8. Sgiliau Cymraeg staff
Gofynnir pob ymgeisydd swydd am ei sgiliau Cymraeg, a chaiff y wybodaeth hon ei bwydo i mewn i’r system adnoddau dynol os caiff yr unigolyn ei benodi. Mae modd i aelodau staff ddiweddaru eu sgiliau Cymraeg drwy ddull hunan-wasanaeth yn y system adnoddau dynol, ac fe’u hatgoffir i wneud hyn yn flynyddol. Anogir staff hefyd i ailystyried y wybodaeth hon wrth wella eu sgiliau Cymraeg.
Roedd sgiliau Cymraeg staff ar 31 Gorffennaf 2021 fel a ganlyn:
CYFANSWM STAFF 4721
Staff gweinyddol (Cyfanswm 2719)
|
Darllen |
Ysgrifennu |
Siarad |
Deall |
Ddim eisiau dweud |
47 |
49 |
48 |
43 |
Dim o gwbl |
1228 |
1432 |
1187 |
1050 |
Ychydig |
707 |
547 |
766 |
826 |
Eithaf da |
110 |
106 |
82 |
144 |
Rhugl |
179 |
136 |
187 |
207 |
Dim data |
448 |
449 |
449 |
449 |
Staff Academaidd (Cyfanswm 2002)
|
Darllen |
Ysgrifennu |
Siarad |
Deall |
Ddim eisiau dweud |
65 |
67 |
64 |
65 |
Dim o gwbl |
1067 |
1183 |
1057 |
981 |
Ychydig |
343 |
244 |
358 |
395 |
Eithaf da |
55 |
51 |
50 |
81 |
Rhugl |
142 |
127 |
143 |
148 |
Dim data |
330 |
330 |
330 |
332 |
9. Hyfforddiant
Yn ogystal â hyn, mae Swyddogion Polisi'r Gymraeg yn cynnig cyrsiau penodol am ddim i staff: “cwrs cyfarch” (sef gwersi Cymraeg sylfaenol 10-awr), cwrs awr-o-hyd “Cymraeg sylfaenol” sy’n cyflwyno hanes y Gymraeg, geiriau ac ymadroddion Cymraeg cyffredin, a hanfodion ynganu, a chwrs awr-o-hyd sy’n manylu ar ofynion Safonau’r Gymraeg. Cynhelir pob un o’r cyrsiau hyn ar Zoom.
Mae pob aelod staff newydd yn cael cyflwyniad i’r Gymraeg gan Swyddogion Polisi’r Gymraeg fel rhan o’r rhaglen sefydlu staff. Mae’r cwrs sefydlu hefyd ar gael yn y Gymraeg.
- Yn ystod 2020-21, cyflawnodd 25 aelod staff y “cwrs cyfarch”, gyda chwech arall yn cyflawni rhywfaint o’r cwrs, er nid y cyfan.
- Yn ystod 2020-21, cyflawnodd 13 aelod staff y cwrs Cymraeg sylfaenol.
- Yn ystod 2020-21, cyflawnodd naw aelod staff y cwrs Safonau’r Gymraeg.
- Yn ystod 2020-21, cafodd 179 aelod staff gyflwyniad i’r Gymraeg yn y Brifysgol fel rhan o’u hyfforddiant sefydlu. Cyflawnodd un aelod o staff yr hyfforddiant sefydlu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae gwersi Cymraeg ar gael am ddim i holl staff y Brifysgol. Nod y cyrsiau yw cefnogi academyddion a staff gweinyddol i ddysgu neu wella'u Cymraeg. Caiff y rhain eu hariannu drwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a'u cydlynu gan Brifysgol Abertawe a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Nifer nifer yr aelodau staff a gwblhaodd y cyrsiau yn ystod y cyfnod oedd:
Mynediad - 19
Sylfaen - 5
Canolradd - 4
Uwch – 6
Y tu hwnt i’r sesiynau swyddogol, caiff sesiynau ymwybyddiaeth ac iaith hefyd eu cynnal mewn modd llai ffurfiol yn ôl y galw, a chynhelir sesiynau cymdeithasol yn y Gymraeg yn achlysurol i staff sy’n siarad Cymraeg ar bob lefel. Mae’r rhain wedi cael eu cynnal ar-lein ers mis Mawrth 2020 ond caiff y dull ei adolygu wrth i staff ddychwelyd i’r campws.
10. Recriwtio i swyddi gwag
Wrth greu swydd newydd neu lenwi swydd wag, cynhelir asesiad o’r sgiliau Cymraeg sydd eu hangen ar gyfer y swydd honno. Yn ystod y cyfnod dan sylw, hysbysebwyd swyddi fel a ganlyn:
Cyfanswm y swyddi a gafodd eu hysbysebu yn ystod y cyfnod dan sylw |
2111 |
Cyfanswm y swyddi a gafodd eu llenwi yn ystod y cyfnod dan sylw |
919 |
|
|
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 3’ (rhugl) a gafodd eu hysbysebu |
17 |
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 3’ (rhugl) a gafodd eu llenwi |
7 |
|
|
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 2’ (eithaf da) a gafodd eu hysbysebu |
4 |
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 2’ (eithaf da) a gafodd eu llenwi |
4 |
|
|
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 1’ (ychydig) a gafodd eu hysbysebu |
643 |
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 1’ (ychydig) a gafodd eu llenwi |
347 |
|
|
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 0’ (Cymraeg yn ddymunol) a gafodd eu hysbysebu |
1387 |
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 0’ (Cymraeg yn ddymunol) a gafodd eu llenwi |
535 |
|
|
Cyfanswm y swyddi nas cynhaliwyd asesiad sgiliau Cymraeg ar eu cyfer a gafodd eu hysbysebu |
60 |
Cyfanswm y swyddi nas cynhaliwyd asesiad sgiliau Cymraeg ar eu cyfer a gafodd eu llenwi |
26 |
11. Manylion cyswllt i gael rhagor o wybodaeth
Mae rhagor o wybodaeth am ymrwymiad y Brifysgol i’r Gymraeg ar gael ar y dudalen ganlynol:
https://www.abertawe.ac.uk/safonaur-Gymraeg
Fel arall, gallwch gysylltu â Swyddogion Polisi’r Gymraeg: