Wrth greu rôl newydd ac wrth lenwi swydd wag, rhaid i'r Brifysgol gynnal a chofnodi asesiad sgiliau Cymraeg. Mae hyn yn cefnogi ymrwymiad y Brifysgol i normaleiddio defnyddio'r Gymraeg ac mae hefyd yn ofyniad cyfreithiol o dan Safonau’r Gymraeg.

Caiff un o'r lefelau canlynol ei bennu ar gyfer pob swydd:

Lefel 0 - Nid oes angen Cymraeg

Lefel 1 - ‘ychydig’ e.e. ynganu geiriau Cymraeg, enw lleoedd, enw adrannau. Gallu ateb y ffon yn Gymraeg (bore / prynhawn da). Gallu defnyddio neu ddysgu geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda, esgusodwch fi). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi awr-o-hyd.

Lefel 2 - ‘eithaf da’ e.e. yn gallu deall ystod deg o ohebiaeth sy'n gysylltiedig â'r swydd, gan gynnwys pan y defnyddir iaith safonol. Yn gallu cynnal sgwrs syml ar bwnc sy'n gysylltiedig â gwaith, ond efallai y bydd angen dychwelyd i'r Saesneg i drafod gwybodaeth gymhleth neu dechnegol. Yn gallu ysgrifennu gohebiaeth adweithiol (nad yw'n arbenigol) gweddol gywir yn Gymraeg.

Lefel 3 - ‘rhugl’ e.e. yn gallu cynnal sgwrs rugl yn y Gymraeg ar fater sy'n gysylltiedig â gwaith. Yn gallu ysgrifennu deunydd Cymraeg gwreiddiol yn hyderus.

Amlinellwch yn eich cais am y swydd dan sylw sut yr ydych yn bodloni'r lefel Gymraeg a bennwyd.

Ar gyfer swyddi Lefel 1, gellir cyflawni'r lefel hon unwaith y byddwch yn dechrau eich swydd drwy gwblhau cwrs hyfforddi awr-o-hyd sy'n cwmpasu hanfodion Cymraeg ac ymwybyddiaeth gyffredinol o'r Gymraeg.

Bydd swyddi Lefel 2 a 3 fel arfer yn cael eu hasesu yn ystod y cyfweliad, gyda'r posibilrwydd o ychwanegu tasg ysgrifenedig fel y bo'n briodol. Mae cyrsiau mewnol ar gael yn rhad ac am ddim i siaradwyr Cymraeg rhugl a hoffai wella eu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.

Sylwch, o dan Safonau'r Gymraeg, fod gennych hawl i gyfweliad drwy gyfrwng y Gymraeg. Gall elfennau o'r cyfweliad fod yn Saesneg os yw'n ofynnol i chi gyfathrebu'n ddwyieithog yn y rôl.