Eich profiad o'r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe yn sefydliad dwyieithog. Rydym yn cefnogi hawl ein myfyrwyr, staff a'r cyhoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, ac yn hyrwyddo cyfleoedd iddynt ddefnyddio'r iaith yn eu hastudiaethau academaidd, yn eu gwaith ac yn gymdeithasol. 

Croesawn sylwadau o bob math, p'un a yw hyn yn gŵyn neu'n ganmoliaeth fel y gallwn ddysgu o'n diffygion a sicrhau ein bod ni'n cydnabod ac yn rhannu arfer da.

Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo'n llawn i gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg ac i ymdrin ag unrhyw gwynion ynglŷn â methiant o safbwynt cyflawni'r Safonau, neu unrhyw gŵyn arall sy'n ymwneud â'r Gymraeg yn y Brifysgol.

Rhoddir crynodeb o'r weithdrefn gwyno lawn isod, a'r fersiwn llawn ar waelod y dudalen hon. 

Cwyno, canmol a sylwadau eraill yn ymwneud â'r Gymraeg